Gwaith ffordd yn fygythiad i fusnes yn Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Barri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith yn agos at fynedfa Canolfan Heboca Cymru ger Y Barri

Mae busnes ym Mro Morgannwg yn bryderus am ei ddyfodol oherwydd effaith gwaith ar y ffordd sy'n digwydd gerllaw.

Yn ôl perchnogion Canolfan Heboca Cymru yn Y Barri, maen nhw'n credu y bydd rhaid cau eu drysau oherwydd y gwaith o wella'r ffordd i Faes Awyr Caerdydd.

Dywedodd Cyngor Sir Bro Morgannwg y bydd y prosiect yn gwella amseroedd teithio i'r maes awyr ac i Barc Menter Sain Tathan.

Ond dywedodd perchennog y ganolfan, Jamie Munro: "Mae nifer ein hymwelwyr i lawr 50%.

"Rydw i newydd gwblhau ein sioe hedfan amser cinio, ac fel arfer fe fyddai cynulleidfa o 60-70 o bobl yn ystod gwyliau'r ysgol... doedd cynulleidfa heddiw ddim yn cyrraedd ffigyrau dwbwl.

"Mae gwaith ffordd yn atal pobl rhag dod yma oherwydd maen nhw'n gwybod y bydd oedi ac mae'r fynedfa'n cael ei rhwystro oherwydd y goleuadau traffig dros dro."

Disgrifiad o’r llun,

Jamie Munro, perchennog canolfan sydd wedi bod mewn busnes ers 40 mlynedd

Roedd Mr Munro yn derbyn bod angen gwella'r ffordd gan ei bod "wedi bod yn beryglus ers degawdau".

Ond dywedodd fod pryder go iawn na fydd ei fusnes yn dal i fynd erbyn i'r gwaith gael ei gwblhau.

Ychwanegodd: "Mae'r cyngor yn fodlon trafod gyda ni, ac ry'n ni'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Rwy'n gobeithio y byddan nhw nid yn unig yn cefnogi'r maes awyr ond hefyd yn cefnogi busnes sydd wedi bod yma ers 40 mlynedd."

'Amyneddgar'

Mike Clogg yw rheolwr Gwasanaethau Trafnidiaeth Cyngor Bro Morgannwg, a dywedodd: "Mae swyddog o'r cyngor wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda'r holl fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan y prosiect, ac wedi ymweld â Chanolfan Heboca Cymru ar wyth achlysur ers 1 Ebrill.

"Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r ganolfan i geisio cynorthwyo gyda phryderon penodol am weddill y cytundeb.

"Ry'n ni'n cydnabod fod y gwaith yn mynd i achosi rhywfaint o aflonyddwch i fodurwyr a busnesau, ac yn gofyn iddyn nhw i fod yn amyneddgar.

"Erbyn hyn mae'r gwaith yn tynnu at ei derfyn, ac ry'n ni'n gobeithio y bydd y ffordd yn agor yn llawn cyn diwedd yr haf."