Siân Grigg: Dim gŵyl ddiwylliannol i gymharu â'r Urdd
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Gwener, yr artist golur gafodd ei magu yng Nghaerdydd, Siân Grigg yw Llywydd y Dydd.
Mae gan Siân "atgofion melys" o gystadlu mewn eisteddfodau'r Urdd a chael mynd i wersylloedd Llangrannog a Glan Llyn pan yn aelod ifanc.
Yng nghanol amserlen brysur Siân o weithio ar ffilmiau Hollywood, mae hi'n beirniadu yn yr Urdd eleni mewn cystadleuaeth coluro.
Mae Siân wedi gweithio ar sawl ffilm byd enwog, wedi cael ei henwebu am Oscar, ac fe enillodd BAFTA am ei gwaith ar ffilm The Aviator.
Fe dderbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gyfun Glantaf.
Fe symudodd ymlaen i astudio Colur a Thrin Gwallt i Ffilm a Theledu yng Ngholeg Ffasiwn Llundain.
'Di Caprio'n gwybod popeth am Gymru'
Siân oedd y person cyntaf i ennill Gwobr Siân Phillips BAFTA Cymru am waith coluro, a hynny yn 2016.
Dywedodd bod "Cymru'n lwcus i gael gŵyl ddiwylliannol flynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, a does dim digwyddiad yn Lloegr yn cymharu".
Un o'r actorion mae Siân yn gweithio gyda'n aml yw Leonardo di Caprio.
Gweithiodd y ddau gyda'i gilydd yn gyntaf ar ffilm Titanic ac ers hynny mae Siân wedi gweithio ar sawl ffilm arall gyda'r seren Hollywood.
Yn ôl Siân, mae di Caprio yn "gwybod popeth am Gymru".
"Er nad ydy o'n siarad Cymraeg, fe wnaeth drio darllen llyfr Cymraeg i fy mab pan oedd yn un oed!" meddai.
Ychwanegodd Siân fod yr Urdd yn werthfawr o ran rhoi cyfle i blant i gael eu meithrin a'i magu yn y celfyddydau a'i bod hi'n falch iawn o fod yn Llywydd y Dydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2016