Urdd 2019: 'Arbrawf maes am ddim wedi gweithio'

  • Cyhoeddwyd
Sian Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis yn falch fod yr arbrawf o gynnig mynediad i'r Maes am ddim "wedi gweithio" eleni

Mae Prif Weithredwr yr Urdd wedi dweud wrth Cymru Fyw ei bod hi'n "hapus iawn gyda llwyddiant yr Eisteddfod eleni ym Mae Caerdydd".

Yn ôl Sian Lewis, mae mwy o gynulleidfa wedi troedio'r Maes eleni ac mae mwy o blant a phobl ifanc ail iaith wedi cystadlu.

Daw sylwadau Ms Lewis ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.

Ychwanegodd: "Mae'r arbrawf o Faes am ddim wedi gweithio ac mae 'na gynulleidfa newydd wedi cael blas o ddiwylliant Cymraeg.

'Mwy o gystadleuwyr ail iaith'

"Mae 'na fwy o gystadleuwyr ail iaith wedi cystadlu eleni ac mae hynny yn elfen bwysig fod ein cyrhaeddiad ni yn bellach."

Er i fynediad i'r Maes fod am ddim eleni, mae'r Urdd wedi arbed costau drwy ddefnyddio adeiladau ym Mae Caerdydd.

Mae'r cystadleuwyr sy'n cael llwyfan eleni yn cael perfformio yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm.

Mae'r mudiad wedi arbed £200,000 eleni wrth beidio gorfod cael trac fyrddau ar y Maes a sawl elfen arall sy'n angenrheidiol wrth gynnal Eisteddfod mewn cae.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau mynediad yn edrych yn "gadarnhaol iawn" yn ôl Sian Lewis

Ond yn ôl Ms Lewis nid yw'n bosib cynnig mynediad am ddim bob blwyddyn, gan fod cost ariannu Eisteddfod yr Urdd yn £2m.

"Mae'n rhaid i ni gael ffynonellau incwm er mwyn cyrraedd y targed yna ac mae gwerthiant tocynnau yn rhan sylweddol o'r incwm.

"Efallai fod lle i ni edrych, efallai pob ychydig o flynyddoedd, dibynnu ble mae'r Eisteddfod os oes modd cynnig mynediad am ddim er mwyn denu cynulleidfa newydd," meddai.

'Buddsoddiad addysg Gymraeg'

Dywedodd Ms Lewis fod y ffigyrau mynediad yn edrych yn "gadarnhaol iawn, ac maen nhw'n sicr yn dangos ein bod ni wedi cyrraedd y targed o beth oedden ni eisiau, sef denu mwy o bobl."

Wrth edrych ymlaen at ŵyl y flwyddyn nesaf yn Sir Ddinbych, dywedodd Ms Lewis y "byddai'r Eisteddfod yn mynd nôl i'r traddodiadol, mewn cae.

"Mae'r pwyllgor gwaith yn gwneud yn dda iawn ac ar y ffordd i godi'r arian sydd ei angen."

O ran uchafbwynt personol Sian Lewis eleni, dywedodd ei bod yn falch iawn o weld negeseuon gan rieni di-Gymraeg yn dathlu llwyddiant eu plant yn yr Eisteddfod.

"Erbyn hyn rydym ni'n gallu denu'r teuluoedd yna sydd wedi cymryd mantais o anfon eu plant i gael addysg yn y Gymraeg."

Mae'r teuluoedd yna, meddai yn "dod yma a gweld y buddsoddiad yna wrth gael gweld eu plant yn mwynhau mewn awyrgylch Gymraeg ac efallai yn cymryd rhan am y tro cyntaf".