Rhagweld gollwng cynllun ffordd liniaru'r M4
- Cyhoeddwyd
Mae yna ddyfalu cynyddol y bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn gollwng y cynlluniau £1.4bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r de o Gasnewydd.
Mae'r Athro Stuart Cole sy'n Athro Emeritws Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn gofyn sut y mae'n bosib i Mr Drakeford fwrw ymlaen â'r cynlluniau wedi i'r llywodraeth gyhoeddi argyfwng hinsawdd.
Dywed yr AC Llafur, Alun Davies, nad yw'n credu y bydd Mr Drakeford yn bwrw ymlaen â'r cynllun.
Mae disgwyl i'r penderfyniad gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Ers i lywodraeth y DU roi pwerau benthyg arian i Lywodraeth Cymru mae gweinidogion wedi bod yn sôn am adeiladu traffordd chwe lôn i'r de o Gasnewydd gan ail-atgyfodi cynlluniau sy'n deillio'n ôl i 1991.
Nododd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad 2016 y byddai'r blaid yn adeiladu "ffordd liniaru'r M4".
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, o dan arweiniad Carwyn Jones, gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus.
Ym mis Chwefror nododd BBC Cymru bod £44m wedi cael ei wario ar y costau datblygu a'r ymchwiliad.
Amheus
Wedi i Mr Jones gamu o'r neilltu fel Prif Weinidog mae'r penderfyniad bellach yn nwylo Mark Drakeford. Mae 'na ddyfalu ei fod ef yn amheus o fuddion y cynllun.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Mr Drakeford wedi bod ystyried canfyddiadau'r ymchwiliad ac mae disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae'r farn am y cynllun yn rhanedig - mae wedi denu gwrthwynebiad chwyrn gan amgylcheddwyr oherwydd yr effaith ar fywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent.
Mae'r cynllun wedi derbyn cefnogaeth gan y CBI a Llywodraeth y DU.
Yn ystod y penwythnos nododd Alun Davies, AC Blaenau Gwent, ar ei gyfrif Twitter ei fod yn credu y bydd Mark Drakeford yn "dewis peidio bwrw ymlaen â chynllun yr M4".
Dywedodd: "Bydd rhaid felly cael gwelliannau ffordd o amgylch Casnewydd ar frys a buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus."
Mae ffynhonnell arall o'r Blaid Lafur hefyd wedi dweud nad ydynt yn credu y bydd Mr Drakeford yn bwrw ymlaen â'r cynllun.
"Mae'r datganiad brys ynglŷn â newid hinsawdd" yn gwneud hi'n anodd bellach i Mark roi sêl ei fendith," medd y ffynhonnell.
Dywedodd Stuart Cole, sy'n gwrthwynebu ffordd liniaru'r M4 ac sy'n bleidiol i ffordd amgen, nad yw'n credu y byddai cymeradwyo'r ffordd liniaru yn cyd-fynd â phenderfyniad diweddar y llywodraeth ynglŷn ag argyfwng hinsawdd.
Dywedodd: "Dwi'm yn gweld bod yna ddewis i Mark Drakeford heblaw gohirio'r cynllun neu hyd yn oed ei ganslo yn llwyr, fel a ddigwyddodd yn y gorffennol."
Yn 2002 fe gafodd Sue Essex o Blaid Lafur Cymru wared â'r cynlluniau ac fe wnaeth gweinidog trafnidiaeth Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wneud yr un fath yn 2009.
Ychwanegodd yr Athro Cole: "Rwy'n credu y bydd Mr Drakeford yn dod i'r un penderfyniad am yr un rhesymau - cost, gwasgaru arian o amgylch Cymru a ffactorau amgylcheddol fel adeiladu ar Wastadeddau Gwent."
Dywedodd y ffynhonnell o'r Blaid Lafur y dylai papurau'r ymchwiliad fod wedi cael eu cyhoeddi erbyn nawr.
"Does dim pwynt cael ymchwiliad," meddid, "os yw gwleidyddion yn dod i benderfyniad heb ystyried y canfyddiadau."
Yn ei gynhadledd i'r wasg misol fe wnaeth Mark Drakeford amddiffyn ei benderfyniad i beidio â chyhoeddi'r adroddiad tan ddydd Mawrth gan nodi nad oedd yn "benderfyniad call gwneud cyn hynny".
"Mae'n benderfyniad," meddai, "sydd wedi denu barn gref a gwahanol o fewn y Blaid Lafur ac yn ehangach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2018