Ni ddylai Carwyn Jones 'glymu dwylo' olynydd ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai Carwyn Jones gael penderfynu os fydd ffordd liniaru'r M4 yn cael ei hadeiladu neu beidio, yn ôl Aelod Cynulliad Llafur.
Dywedodd Jenny Rathbone, sy'n erbyn y cynllun, na ddylai'r prif weinidog "glymu dwylo" ei olynydd.
Mae Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan yn y ras i olynu Mr Jones fel arweinydd y Blaid Lafur ar ôl i Mr Jones adael ei swydd fis nesaf.
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.
Y gred yw bod Mr Gething a Ms Morgan yn gefnogol o'r datblygiad, tra bod Mr Drakeford yn fwy amheus o'r cynllun.
Dywedodd Ms Rathbone, sy'n cefnogi Mr Drakeford: "Dwi ddim yn deall sut y gall e [Carwyn Jones] glymu dwylo ei olynydd gyda phrosiect o'r maint yma.
"Dwi'n credu y dylai'r llywodraeth fod yn gweithio'n galed i weld sut y gallwn ni gyflwyno gwell systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn y tymor byr a'r tymor hir.
"Mae e dal yn brif weinidog tan 10 Rhagfyr ond dwi yn meddwl ei bod hi'n od y byddai'n gwneud penderfyniad mor fawr sydd am hawlio cymaint o agweddau o'n cyllidebau, a hynny cyn iddo ymddiswyddo."
Ar hyn o bryd mae swyddogion y llywodraeth yn dadansoddi cynnwys adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus i'r ffordd liniaru.
Y llwybr du yw ffefryn y llywodraeth ar hyn o bryd - llwybr a fyddai'n golygu adeiladu 14 milltir o draffordd i'r de o Gasnewydd.
Bydd Carwyn Jones yn gwneud penderfyniad unwaith mae'r swyddogion wedi paratoi argymhellion yn seiliedig ar yr adroddiad.
Ar ôl hynny bydd pleidlais yn cael ei gynnal yn y Cynulliad.
Mae ACau Llafur eraill, gan gynnwys Mike Hedges, yn cytuno gyda Ms Rathbone fod hwn yn benderfyniad i'r prif weinidog nesaf.
Dywedodd ffynhonnell o'r blaid fod "tua hanner" grŵp Llafur y Cynulliad yn teimlo'r un fath.
Gofynnodd rhaglen BBC Wales Live wrth y tri ymgeisydd i olynu Mr Jones os oedden nhw'n credu mai ef dylai wneud y penderfyniad.
Eluned Morgan oedd yr unig un i ateb yn uniongyrchol, gan nodi ei bod hi'n "hapus i'r prif weinidog presennol wneud y penderfyniad".
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018