Ymchwil newydd 'rhyfeddol' o Gymru i drin canser y fron

  • Cyhoeddwyd
X-Ray canser y fronFfynhonnell y llun, ilbusca/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd canfyddiadau'r ymchwil eu datgelu yng nghynhadledd ganser fwya'r byd yn Chicago ddydd Mawrth

Mae'n bosib y gallai miliynau o bobl sydd â chanser y fron elwa o gymryd cyffur newydd yn dilyn gwaith ymchwil "rhyfeddol".

Roedd ysbyty canser Felindre yng Nghaerdydd yn un o'r canolfannau a oedd yn arwain yr ymchwil.

Dangosai'r ymchwil y gall meddyginiaeth benodol atal y canser rhag datblygu ar raddfa mor gyflym.

Gallai'r rhai gafodd y driniaeth newydd ddisgwyl byw ar gyfartaledd o chwe mis yn hirach na chleifion sydd heb fod yn cymryd y cyffur.

Beth yw'r ymchwil?

Roedd arbenigwyr am ddeall pam fod triniaeth hormon arferol yn mynd yn llai effeithiol wrth i amser fynd yn ei flaen mewn menywod â math cyffredin o ganser y fron.

Roedd ymchwilwyr yn ymwybodol fod protein o fewn y corff (AKT) yn chwarae rhan yn y broses, ac yn gwybod fod cyffur gymharol newydd (Capivasertib) yn gallu amharu ar waith y protein hwnnw.

Fe wnaeth 140 o gleifion mewn 19 o ysbytai yn y DU gymryd rhan mewn treial wnaeth bara pum mlynedd i ddarganfod pa effaith fyddai rhoi cyfuniad o'r cyffur newydd a'r driniaeth arferol ar ddatblygiad canser y fron.

Cafodd hanner y cleifion y cyfuniad newydd o gyffuriau a'r hanner arall driniaeth hormon arferol ynghyd â phlasebo.

Beth oedd y canlyniadau?

Gwelodd 41% o'r rhai gafodd y driniaeth newydd leihad sylweddol ym maint eu canser o gymharu â 12% yn y grŵp arall.

Yn ogystal fe gafodd y canser ei reoli am gyfartaledd o 10.3 mis yn y rhai gafodd y cyfuniad newydd o gyffuriau o gymharu â 4.8 mis i'r rhai gafodd y driniaeth hormon yn unig.

Gallai'r rhai gafodd y driniaeth newydd ddisgwyl byw ar gyfartaledd chwe mis yn hirach na chleifion yn y grŵp arall.

Disgrifiad o’r llun,

"Ni'n trio cael nhw i fyw bywyd gwell, hirach," meddai Dr Eve Gallop Evans

"Roedd y canlyniadau yn eithaf rhyfeddol," meddai Dr Rob Jones, ymgynghorydd oncoleg ac arweinydd y treial.

"Pan fyddwch chi'n cael diagnosis o ganser nad oes modd ei wella, mae unrhyw estyniad i fywyd yn hynod o bwysig.

"Mae digon o enghreifftiau yn y treial o gleifion sydd wedi byw am ddwy neu dair blynedd heb eu clefyd ddatblygu ymhellach."

Esboniodd Dr Jones y gallai cadarnhad o'r canlyniad mewn treial fwy arwain at drawsnewidiad yn safon y gofal am y math yma o ganser yn rhyngwladol.

Bywyd mwy 'normal'

Mae Dr Eve Gallop Evans, cyfarwyddwr Uned Treialon Clinigol Ysbyty Felindre, yn awyddus bydd y driniaeth yn galluogi cleifion i fyw "bywydau gwell".

Dywedodd: "Unwaith ni'n gwybod ei fod e wedi lledu, ni ond yn gallu rheoli'r canser yn hytrach na chael gwared ohono.

"Ond mae pobl yn gallu byw am amser hir, a ni'n trio cael nhw i fyw bywyd gwell, hirach.

"Ni eisiau darparu rhywbeth i bobl sydd eisiau caniatáu eu bod nhw'n gallu byw bywyd mwy normal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymchwil wedi bod o fudd i gleifion fel Susan Cunningham o Gaerdydd

Cafodd Susan Cunningham ddiagnosis o ganser y fron am y tro cyntaf yn 2005, ac ers hynny mae hi wedi derbyn sawl triniaeth i fynd i'r afael â'r salwch.

"Roeddwn i'n gwneud yn dda tan ryw ddwy flynedd yn ôl pan gefais ddiagnosis o ganser yr asgwrn metastatig," meddai.

"Hyd yn oed heddiw, dwy flynedd yn ddiweddarach mae 'na driniaethau newydd ar gael. Mae'n rhoi mwy o amser i ti, estyniad mewn ffordd - ac ansawdd bywyd gwell.

"Mae'n hynod o gyffrous, a dwi wedi bod yn lwcus iawn o fyw yng Nghaerdydd a chael y driniaeth yma."

Cafodd canfyddiadau'r ymchwil eu datgelu yng nghynhadledd ganser fwya'r byd yn Chicago ddydd Mawrth.

Y disgwyl yw y bydd treial rhyngwladol yn cael ei gynnal gyda channoedd o gleifion yn cymryd rhan.

Os yw'r canlyniadau yn gadarnhaol y gobaith yw y gallai'r ymchwil hwn o Gymru elwa miliynau o gleifion â chanser y fron ledled y byd.