Pencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan-20: Yr Ariannin 25-30 Cymru
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Harri Morgan gais agoriadol Cymru
Fe ddechreuodd Cymru eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan-20 gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Yr Ariannin yn Rosario.
Roedd Cymru ar y blaen ar yr hanner o 11-10 diolch i gais gan y mewnwr Harri Morgan a chicio cywir y maswr Cai Evans.
Fe aeth y tîm cartref ar y blaen yn yr ail hanner, ond roedd cais gan yr asgellwr Ryan Conbeer a 14 o bwyntiau o droed Evans yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Cymry.
Bydd Cymru'n herio Ffrainc ddydd Sadwrn, cyn wynebu Fiji ar 12 Mehefin.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.