Cael gwersi Cymraeg, diolch i Jeremy Vine

  • Cyhoeddwyd

Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd cwmni dysgu iaith, Say Something in Welsh, fod cyfrannwr anhysbys wedi talu am chwe mis o wersi Cymraeg i 10 unigolyn lwcus a oedd wedi cael eu henwebu gan ffrind.

Ond pwy oedd y cyfrannwr anhysbys hael hwnnw?

Neb llai na'r cyflwynydd radio, Jeremy Vine.

Yn dilyn gwneud sylw am y defnydd o'r iaith Gymraeg ar Twitter, oedd yn ymddangos fel un sarhaus i nifer o Gymry, cafodd Jeremy ei addysgu am bwysigrwydd yr iaith, ac mae hyd yn oed wedi cael gwers Gymraeg yn fyw ar yr awyr gan Aran Jones, cyd-sylfaenydd Say Something in Welsh.

Felly pam fod Jeremy wedi penderfynu talu am wersi Cymraeg i ddieithriaid?

"Fues i mewn ffrae ar Twitter. Dwi ddim hyd yn oed yn cofio beth oedd o neu sut ddechreuodd o. Ond yn ei hanfod, ddywedais i rywbeth a gafodd ei gamddeall gan gyfeillion yng Nghymru, ac ro'n i eisiau gwneud yn iawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, SSiW
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy yn cael gwers Gymraeg gan Aran Jones ar Ddydd Gŵyl Dewi 2019

"Nawr mod i'n hen - 54 - mae dau beth wedi dod yn amlwg i mi. Yn gyntaf, fod pethau dwi'n meddwl sydd yn llwyddiannau gen i, wir lawr i lwc. Yn ail, y peth gorau yn y byd yw amrywiaeth.

"Mae amrywiaeth iaith - acenion, tafodieithoedd, hyd yn oed y ffordd mae fy merch yn defnyddio'r gair 'sick' gyda dwy ystyr hollol wahanol - mor werthfawr, dwi eisiau ei floeddio o'r entrychion.

"Felly pan ges i fy 'Twitter moment' (plîs, peidiwch â mynd i chwilota amdano) nes i benderfynu dysgu Cymraeg.

"Yn fuan, nes i sylweddoli y byddai fy amserlen yn ei gwneud hi'n amhosib i wneud cyfiawnder â'r prosiect, felly nes i benderfynu gwneud y peth gorau nesa': noddi 10 o ddysgwyr Cymraeg. Fues i mewn cysylltiad gydag Aran Jones, ac ar ôl iddo ddangos ychydig o'i dechneg iaith anhygoel, ysgrifenais siec.

"Nawr dwi eisiau gwybod pwy ydy fy nysgwyr!"

Fe gafodd y 10 eu cyhoeddi fis Ionawr 2019.

Ffynhonnell y llun, SSiW
Disgrifiad o’r llun,

Y 10 lwcus sydd wedi derbyn gwerth chwe mis o wersi Cymraeg gan Jeremy Vine

Chwe mis ers cael y newyddion eu bod yn cael gwersi am ddim, sut mae'r dysgu'n mynd? Mae Cymru Fyw wedi cael sgwrs gyda dau o'r criw a gafodd eu dewis, i weld sut mae pethau'n siapio.

Nicole Lozeau

Dwi'n dod o dde Califfornia, a dwi mewn perthynas hapus gyda Chymro Cymraeg o Gaernarfon, sef fy mhrif gymhelliad i dros ddysgu Cymraeg.

'Nes i a Siôn gwrdd yn CSU Long Beach pan oedd o'n astudio dramor am semestr. Roedden ni'n dau yn astudio Theatr a 'nathon ni ddechrau mynd ar dêts.

Pan roedd rhaid iddo fo fynd adre', roedden ni long distance am bron i ddwy flynedd, yn teithio nôl a 'mlaen.

Symudodd yma i Califfornia ym mis Mawrth, a nawr rydyn ni'n byw gyda'n gilydd yn Long Beach.

Ffynhonnell y llun, Nicole Lozeau
Disgrifiad o’r llun,

Nicole, o Califfornia, a Siôn, o Gaernarfon

Dwi'n teimlo mod i wedi dysgu llawer drwy'r cyrsiau ar-lein! Dwi ddim cweit yn gallu cynnal sgwrs eto, ond dwi'n deall ystyr beth sy'n cael ei ddweud.

Dwi'n cael amser caled gyda threigladau, felly mae gen i lot o'r cwrs dal i fynd.

Y rhan dwi'n ei fwynhau fwyaf ydi pan dwi'n dweud rhywbeth wrth Siôn ac mae'n gallu deall beth dwi'n ei ddweud. Dwi'n edrych ymlaen at ymweld â Chymru flwyddyn nesa' a gweld faint dwi'n gallu cyfathrebu.

Dwi eisiau dysgu achos dwi, yn y pen draw, eisiau byw yng Nghymru.

Huw Brace

Dwi o Bedwas, ger Caerffili. Dwi eisiau dysgu Cymraeg gan mod i'n dechrau cwrs dysgu ym mis Medi ac yn y pen draw, dwi eisiau gallu dysgu mewn ysgol Gymraeg.

Ges i fy enwebu gan Eben - dwi'n ei 'nabod o'r brifysgol a ry'n ni'n mynydda gyda'n gilydd, a 'swn i wrth fy modd yn gallu sgwrsio yn Gymraeg gyda fe a'r bobl yn y clwb dringo. Mae'n eitha' embarassing pan dwi'n mynd i'r gogledd ac mae pobl yn gofyn 'Ti'n siarad Cymraeg?' a dwi'n dweud 'tipyn bach' ac mae'r sgwrs yn troi i Saesneg.

Mae'r gwersi yn mynd yn wych (wel, dwi'n meddwl hynny beth bynnag!). Dwi'n ymarfer pryd bynnag alla i.

Pan 'dyn ni'n mynd i ddringo, dwi'n gofyn i Eben os gawn ni siarad Cymraeg am 10 munud... wedyn mae'n dod mas â lot o eiriau dwi erioed wedi eu clywed o'r blaen!

Ond mae e'n synnu gyda faint dwi wedi ei ddysgu mewn amser byr. Y cwbl mae angen ei wneud ydi dweud beth yw ambell i air, a gallwn ni gael sgwrs iawn (gyda 'chydig o Wenglish pan dwi angen!)

Mae sut mae'r gwersi wedi eu trefnu yn ffantastig ac yn effeithiol iawn. Dwi'n gwrando arnyn nhw yn y car ar fy nhaith i'r gwaith - felly y car ydi fy hafan Gymraeg bellach. Pan dwi yn y car, dwi'n wych!

Ffynhonnell y llun, Huw Brace
Disgrifiad o’r llun,

Huw ar ben y byd am ei fod yn dysgu Cymraeg!

Dwi'n dechrau dod i arfer gyda'r treigladau nawr, ond dwi'n cofio fy ngwers gynta', yn dysgu beth oedd 'brawd', ond wedyn mai nid 'fy brawd' sy'n gywir... na 'dy brawd'...

Dwi eisiau gweithio ar fy ysgrifennu, ond ga i fwy o help gyda hynny ar y cwrs ymarfer dysgu. Ond beth mae SSiW yn dy ddysgu di yw i ddweud pethau, sydd yn ffordd mwy anffurfiol o ddysgu, dwi'n meddwl sydd yn wych.

Ond, dwi newydd ymateb i e-bost gan un o fy narlithwyr i ar gyfer y cwrs ym mis Medi yn gyfangwbl yn Gymraeg - a dwi'n hynod falch o fy hun!

Hefyd o ddiddordeb: