Sut mae plant dwyieithog yn ymateb i ieithoedd gwahanol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r clip fideo o Liam, mab bach i Gymro a Gwyddeles, sy'n newid ei sain wrth ddynwared sŵn buwch yn ôl pa riant sydd yn siarad ag ef, wedi cael cryn sylw.

Ddydd Mercher, mewn sgwrs gyda Ffion Dafis, ar BBC Radio Cymru, roedd yr ieithydd Dr Bethan Siân Tovey yn esbonio beth sy'n digwydd yn ymennydd plant dwyieithog, a sut maen nhw'n gwahaniaethu rhwng synau gwahanol ieithoedd, o oed ifanc iawn:

Disgrifiad,

Dr Bethan Siân Tovey yn esbonio dwyieithrwydd mewn plant a synnau anifeiliad mewn gwahanol ieithoedd

"Fi wedi gweld llawer o bobl yn dehongli'r clip fel esiampl o ddau acen gwahanol, mae hynny'n ddealladwy.

"Yn fy marn i, mae'n fwy tebygol bod Liam yn ateb cwestiwn Cymraeg gyda gair mae e'n meddwl amdano fel gair Cymraeg. O bosib, dydy e ddim yn hollol ymwybodol mai'r un gair fydde llawer o oedolion yn ystyried y "mŵ" Cymraeg a'r "moo" Saesneg.

"Mae 'na dueddiad i bobl feddwl bod y seiniau yma yn unsain. I Liam, mae'r seiniau yn wahanol.

"Mae ieithyddion yn tueddu i gytuno bod plant erbyn un oed wedi dysgu adnabod seiniau yr iaith maen nhw'n ei glywed yn gyson. Felly mae'r seiniau yma sydd o gwmpas Liam wedi dod yn ran o beth mae Liam yn meddwl amdano fel seiniau iaith. Ond iddo fe, falle, mae'r seiniau iaith Gymraeg a'r seiniau Saesneg yn bethe hollol wahanol."

Ffynhonnell y llun, Dorian Rees
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu dwyieithog

Mae Dr Bethan Siân Tovey yn mynd ymlaen i esbonio sut mae ymennydd plentyn yn gallu gwahaniaethu rhwng seiniau mewn gwahanol ieithoedd, a dysgu anwybyddu rhai nad ydyn nhw'n eu clywed yn aml.

"Mae'r [clip fideo] yn bositif dros ben. Mae'n amlwg bod Liam wedi caffael ar y systemau yma yn hollol gyflawn. Mae ymennydd y plentyn yn dysgu anwybyddu seiniau, nad sy'n cymryd rhan mewn creu geiriau ystyrol iddyn nhw, felly fydd plentyn uniaith Saesneg yn anwybyddu sain 'll' er enghraifft, achos nad yw 'll' yn creu geiriau mewn Saesneg.

"Ond mae plentyn dwyieithog Cymraeg a Saesneg yn dysgu fod y seiniau yma yn gallu creu geiriau ystyrlon yn y Gymraeg, ac yn cymryd yr amser i ddeall y seiniau yma fel seiniau iaith.

"Mae plant yn gallu pigo lan unrhyw seiniau ni'n taflu atyn nhw."

'Anoddach i oedolion'

"Dysgu siarad gyda acen brodorol mewn ail iaith, dyna'r peth mwya' anodd i oedolion a hyd yn oed plant hŷn, i 'neud. Mae rhywun yn gallu dysgu y gramadeg a'r eirfa i safon uchel iawn, ond mae'r acen dal yn aros yn rhywbeth sy'n anodd iawn i 'neud. Mae'r ymennydd wedi colli'r gallu weithiau i glywed y seiniau gwahanol.

"Mae'n rhoi mantais i ni, mae'n meddwl ein bod ni yn gallu talu sylw pan fo rhywun yn siarad â ni mewn ffordd ddealladwy i ni a wedyn peidio â thalu sylw i'r seiniau eraill sy'n mynd ymlaen o'n cwmpas ni.

"Ond mae'r ieithoedd y'n ni'n ceisio dysgu fel oedolion lot yn anoddach i ni."

Hefyd o ddiddordeb: