5 peth rydyn ni wedi ei ddysgu o adroddiad yr M4

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y daith ddyddiol i'r gwaith ar yr M4

Roedd ffordd liniaru'r M4 yn un o gynlluniau ffordd fwyaf Prydain, tan i Mark Drakeford roi stop arno ddydd Mawrth.

Fe wnaeth hynny er gwaethaf casgliad archwilydd cynllunio.

Wedi treulio misoedd yn darllen a gwrando ar dystiolaeth mewn ymchwiliad cyhoeddus, dywedodd Bill Wadrup bod 'na "achos cryf" i adeiladu'r ffordd ger Casnewydd.

Dyma bum peth ddysgon ni o'i adroddiad...

1. Roedd dwsinau o gynlluniau eraill

Beth am gladdu'r ffordd dan ddaear, drwy greu twnnel dan Wastadeddau Gwent?

Byddai ond yn costio £10bn.

Na?

Doedd Mr Wadrup ddim yn meddwl ei fod e'n syniad da chwaith.

Dyma un o 28 cynllun amgen gafodd eu cynnig i'r ymchwiliad.

Doedd yr un ohonyn nhw, ym marn yr archwilydd, gystal â'r syniad gwreiddiol - traffordd 14-milltir o hyd oedd yn cael ei adnabod fel y llwybr du.

Roedd rhai o'r syniadau eraill yn argymell fersiwn o'r llwybr glas ar hyd heolydd yn ne'r ddinas.

Ond byddai hynny wedi golygu adeiladu yn agos at lawer o dai, ac fe ddywedodd Mr Wadrup bod yna "anfanteision difrifol" yn gysylltiedig â'r llwybr glas.

2. Mae traffig yn debygol o gynyddu

Mae 'na gynlluniau uchelgeisiol eraill i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a chymoedd y de.

Gobaith rhai o'r gwrthwynebwyr i'r ffordd liniaru yw y bydd hynny'n lleihau'r pwysau ar yr M4.

Ond petai'r holl welliannau posibl, gan gynnwys Metro De Cymru, dolen allanol, yn ymddangos dros nos, byddai'r nifer o geir ar yr heol wedi dychwelyd i'r lefel presennol o fewn tair blynedd.

Fodd bynnag, "yn y byd go iawn" ni fydd y pethau yma ar gael am flynyddoedd, meddai Mr Wadrup. Ac yn y cyfamser bydd y defnydd o'r draffordd yn cynyddu'n sylweddol.

Rhwng 2011 a 2016, fe gododd y nifer o gerbyd ar y ffyrdd o amgylch Casnewydd 12.3%.

3. Roedd y cynllun yn cynnig 'gwerth am arian'

Penderfynodd cabinet y llywodraeth ym mis Ebrill nad oedd yr arian ar gael i adeiladu'r ffordd.

Nid oedd modd i Mr Wadrup edrych ar goffrau'r llywodraeth, ond dywedodd bod y ffordd liniaru yn cynnig gwerth am arian.

Am bob punt a fyddai wedi cael ei wario arni, byddai'r genedl wedi elwa o £1.56, meddai.

Ond dyw hynny ddim yn cyfri'r "niwed" i'r economi o'r "nifer anarferol o uchel o ddigwyddiadau sy'n arwain at oedi" ar yr M4 y naill ochr o Dwneli Bryn-glas.

Ffynhonnell y llun, Lewis Clarke/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Twneli Bryn-glas yn hunllef i nifer o deithwyr

4. 'Gallai'r ffordd wella Gwastadeddau Gwent yn y pendraw'

Maen nhw'n dweud taw Amazon Cymru yw hwn. Nid jwngl yw e, ond gwlypdiroedd ar yr arfordir sy'n cynnwys nifer o gynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt.

Hyd yn oed petai'r arian ar gael i adeiladu'r ffordd, dywedodd Mr Drakeford na fyddai wedi bwrw 'mlaen oherwydd yr effaith ar y gwastadeddau.

Ond "nid oes llawer o dystiolaeth yn y cyflwyniad i gyfiawnhau'r pryderon a godwyd", oedd barn Mr Wadrup.

Byddai 2% o'r gwastadeddau wedi cael ei effeithio gan y draffordd newydd, meddai.

Ond fe ddywedodd hefyd bod mesurau'r llywodraeth i leihau'r niwed yn golygu byddai'r gwastadeddau yn fwy o faint ac mewn cyflwr gwell yn ecolegol yn y pendraw.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwastadeddau Gwent yn cwmpasu ardal 163 cilometr sgwâr yn ne Cymru

5. 'Byddai'r ffordd newydd wedi bod yn well i'r amgylchedd'

Ar y diwrnod penderfynodd cabinet y llywodraeth yn breifat na allen nhw fforddio'r M4 newydd - 29 Ebrill - dywedodd y llywodraeth yn gyhoeddus ein bod ni'n byw mewn 'argyfwng hinsawdd'.

Efallai eich bod o'r farn y byddai traffordd newydd yn ychwanegu at yr allyriadau carbon sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.

Ond cafodd Mr Wadrup ei berswadio y byddai heol fyrrach, gyda llai o dagfeydd, yn lleihau allyriadau carbon.

Ar ôl pwyso a mesur, dywedodd "ni ellir dadlau nad oes gan y cynllun fanteision amgylcheddol sylweddol na manteision economaidd sylweddol ar draws de Cymru".