Gweithwyr Pen-y-bont 'wedi'u bradychu' medd Drakeford
- Cyhoeddwyd

Cafodd gweithwyr Ford eu gyrru o'r gwaith brynhawn ddydd Iau
"Mae gweithwyr Ford ym Mhen-y-bont yn teimlo wedi'u bradychu," medd y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Cyhoeddodd y cwmni ddydd Iau y bydd y ffatri yn cau ym mis Medi 2020, gyda cholled 1,700 o swyddi.
Dywedodd Mr Drakeford, a fu'n cyfarfod ag undebau ddydd Gwener, fod y gweithlu'n teimlo "eu bod wedi gwneud popeth y mae'r cwmni wedi gofyn iddyn nhw wneud dros y blynyddoedd diweddar".
Aeth ymlaen i annog prif weinidog y DU i weithredu.
Manteisio ar gryfderau
Ychwanegodd Mr Drakeford: "Popeth sydd wedi cael ei wneud i weithwyr Honda yn Swindon, fe ddylen nhw fod yn barod i wneud yr un peth i'r gweithwyr yma ym Mhen-y-bont."
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi rhaglen gwerth £16m i gymorthwyo cyflenwyr, a sefydlu tasglu i hybu Swindon er mwyn adeiladu ceir trydan wedi i Honda gyhoeddi y bydden nhw'n cau eu ffatri yn y dref.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu tasglu eu hunain gyda nod o "wneud y gorau o'r cryfderau sydd yma ym Mhen-y-bont," meddai Mr Drakeford.
Yn y cyfamser, mae angen i arweinwyr busnes a gwleidyddion gydweithio i ddeall beth yw dyfodol Pen-y-bont ar ôl i ffatri Ford gau, yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Dywedodd Ford mai costau a'r ffaith bod y galw gan gwsmeriaid wedi newid sydd y tu ôl i'w penderfyniad.
Dibynnu ar 'un cyflogwr'
Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach Cymru bod Ford "wedi bod yn rhan o'r tirwedd economaidd ers 40 mlynedd".
"Ers hynny mae 'na fusnesau bach wedi tyfu o amgylch y cwmni drwy fod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi," meddai Ben Cottam o'r ffederasiwn.
"Felly mae 'na bryder mawr ymysg y cwmnïau bach yna; mae angen eu cydnabod nhw a deall sut maen nhw'n debygol o gael eu heffeithio."

Mae Ben Cottam yn galw am arweiniad a chydweithio gan weinidogion ym Mae Caerdydd a San Steffan
Ychwanegodd bod y ffederasiwn eisiau gweld cefnogaeth gan lywodraethau - ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan - i sicrhau bod gweithwyr yn gallu addasu i'r newid.
"Mae angen i ni allu gweld a deall sut le fydd Pen-y-bont yn dilyn ymadawiad Ford.
"Dyma dref ac ardal sydd wedi dibynnu yn fawr ar un cyflogwr, ac felly bydd rhaid edrych ar sut mae modd arallgyfeirio'r economi a chreu cyfleoedd newydd."
'Angen arweiniad'
Mae Mr Cottam yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ffurfio grŵp fydd yn canolbwyntio'n benodol ar ddarganfod ateb hir dymor ar gyfer y safle a'r gweithlu.
Ond mae cydweithio rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain yn hanfodol, meddai.
"Mewn cyfnod fel hyn, mi ydyn ni angen gweld arweiniad, a gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU."

Esboniodd nad oes angen i bobl ddeall sut y bydd y wleidyddiaeth yn gweithio, ond bod angen i lywodraethau Cymru a'r DU fod yn "benderfynol" dros yr achos.
"Rydyn ni eisiau gweld y ddwy lywodraeth yn eistedd o amgylch y bwrdd gyda'r holl bartneriaid, a dod i ddeall yn union beth sydd ei angen.
"Mae angen gallu gweld beth fydd gan Ben-y-bont a'r ardal ehangach i'w gynnig yn y dyfodol, a dod o hyd i atebion fyddai'n gallu sicrhau hyn."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wrth y BBC ei fod wedi cysylltu â Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, er mwyn cychwyn trafodaethau am y posibilrwydd o gynhyrchu ceir trydan yn yr ardal fel ffordd o warchod swyddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019