Newid hinsawdd i effeithio ar draeth yn Aber
- Cyhoeddwyd
Bydd newid yn yr hinsawdd a lefel y môr yn "debygol o ddod â newidiadau" i draeth yng Ngheredigion, yn ôl y cyngor sir.
Mae'r cyngor yn adolygu sefydlogrwydd amddiffynfeydd môr ar draeth Tanybwlch yn Aberystwyth.
Bydd tîm cadwraeth yr awdurdod lleol yn cynnal digwyddiadau dros y ddeufis nesaf i drigolion ac ymwelwyr gael cyfle i rannu eu gwybodaeth o'r ardal.
Mae crib raean y traeth yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gyda'r llwybr arfordirol yn rhedeg ar hyd y top.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019