Pencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan-20: Cymru 13-32 Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Cymru v FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Louis Carbonel (dde) 17 o bwyntiau Ffrainc

Mae'n edrych yn debygol y bydd Cymru'n brwydro am ail safle ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan-20 ar ôl cael eu trechu 32-13 gan Ffrainc yn Yr Ariannin.

Fe wnaeth Cymru'r dechrau perffaith pan sgoriodd Tomi Lewis y cais agoriadol.

Fe darodd Ffrainc yn ôl wrth i gic gosb, cais a throsiad Louis Carbonel eu rhoi 10-8 ar y blaen ar yr hanner.

Sgoriodd Vincent Pinto, Matthis Lebel a Julien Delbouis gais yr un wedi'r egwyl i wneud y gêm yn saff, cyn i Gymru gael cais gysur gyda Lewis yn croesi eto.

Ar ôl ennill y gêm agoriadol yn erbyn Yr Ariannin, bydd rhaid i Gymru drin eu clwyfau cyn wynebu Fiji ddydd Mercher, 12 Mehefin yng ngêm olaf y grŵp.