Gweithwyr yn dychwelyd i ffatri Ford ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr wedi dychwelyd i ffatri Ford ym Mhen-y-bont am y tro cyntaf ers y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf y bydd y ffatri yn cau.
Cyhoeddodd y cwmni ddydd Iau y bydd y ffatri yn cau ym mis Medi 2020, gyda cholled o 1,700 o swyddi.
Mae Undeb GMB wedi galw ar y gweithwyr i "frwydro gyda'i gilydd" yn erbyn y penderfyniad er mwyn ceisio cael cwmni Ford i ailystyried.
Ddydd Sul cafodd cynnig brys ei basio yng nghynadledd flynyddol Undeb GMB yn Brighton.
Roedd y cynnig yn nodi bod yn rhaid i weithwyr Ford ar draws y DU frwydro gyda'u cydweithwyr ym Mhen-y-bont yn erbyn cau'r ffatri.
'Diffyg strategaeth'
Dywedodd Jennifer Smith, un o gynrychiolwyr yr undeb, bod cau'r ffatri yn "ergyd anferth i'n haelodau, eu teuluoedd a'r gymuned.
"Mae'r gweithlu yn y ffatri wedi gwneud popeth posib i gynyddu cynhyrchiant, wedi gwneud arbedion effeithiol ac wedi sicrhau eu bod yn cynnig prisiau cystadleuol - ond mae eu hymrwymiad wedi cael ei fradychu gan y cwmni.
"Mae diffyg strategaeth yn ein hatgoffa o'r hyn a ddigwyddodd yn y sector yma yn yr 1980au wrth i ni weld y gwaith yn y gweithfeydd glo a dur yn cael ei ddirwyn i ben yn fwriadol."
Ychwanegodd Ms Smith fod hyn yn "enghraifft arall o ddiffyg cefnogaeth gan lywodraeth ganolog i'r diwydiant cynhyrchu".
Ddydd Sul dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones bod Ford wedi cyfaddef yn breifat fod Brexit wedi chwarae rhan yn y penderfyniad i gau ffatri yng Nghymru.
Dywedodd Mr Jones - sy'n aelod cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr - er bod y cwmni wedi gwadu'r penderfyniad yn gyhoeddus, ei fod wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru fod y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ffactor.
Dywedodd Ford y byddai wedi bwrw 'mlaen gyda'r cynlluniau er gwaethaf Brexit.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019