ACau: Pleidlais i garcharorion yw'r peth iawn i'w wneud
- Cyhoeddwyd
Dylai carcharorion yng Nghymru sy'n treulio cyfnod dedfryd o lai na phedair blynedd gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad a'r cyngor, medd ACau Llafur a Phlaid Cymru.
Eu dadl ydy y byddai'n annog carcharorion i fod yn rhan o gymdeithas,
Ond mae ymchwiliad trawsbleidiol yn y Senedd wedi methu â dod i gonsensws ynglŷn â'r syniad, gyda dau aelod Ceidwadol yn gwrthwynebu.
Dywedodd y Ceidwadwyr fod y cynllun yn "mynd yn groes i gyfiawnder naturiol".
Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, eisoes wedi rhoi'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar waith i ymchwilio i'r syniad o roi'r bleidlais i garcharorion.
'Balans'
Mae pedwar AC Llafur ac un o Blaid Cymru wedi dweud fod eu hargymhelliad yn "rhoi balans sy'n sicrhau gwaharddiad i'r rheiny sydd dan glo am droseddau difrifol".
Yn ogystal, roedden nhw'n galw am yr hawl i gael ei ymestyn i garcharorion 16 ac 17 oed, os fydd yr oed pleidleisio'n gostwng.
Ychwanegon nhw ei fod yn "gyfaddawd allai wneud i garcharorion deimlo'n rhan o gymdeithas ehangach".
Er nad yw materion troseddol a chyfiawnder wedi'u datganoli, mae etholiadau'r Cynulliad a chynghorau yn fater i'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae'r Cynulliad eisoes wedi argymell deddf fydd yn caniatáu i bobl 16 ac 17 oed fwrw pleidlais.
Byddai'n rhaid i ddau draean o ACau bleidleisio o blaid newid y ddeddf sy'n ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad, a Llywodraeth Cymru fyddai'n gyfrifol am newid y ddeddf sy'n ymwneud ag etholiadau cyngor.
Mae'r mwyafrif o'r pwyllgor, sy'n cynnwys y cyn-brif weinidog Carwyn Jones, yn dweud na fyddai'n dasg anodd i gyflwyno'r newidiadau.
Roedden nhw hefyd yn cydnabod y byddai'r cyhoedd yn teimlo'n bryderus petai bob carcharor yn cael pleidleisio.
Yn ôl adroddiad gan y pwyllgor, mae 4,074 o Gymry yn y carchar ar hyn o bryd. Yn 2017 roedd 1,803 o bobl yn treulio dedfryd lai na phedair blynedd.
Mae'r adroddiad yn dweud hefyd nad yw'r farn i ymestyn y bleidlais i garcharorion yn "un poblogaidd", ond "dyw hynny ddim yn golygu nad dyma'r peth iawn i'w wneud".
Dywedodd aelod Ceidwadol o'r pwyllgor, Mark Isherwood, na fyddai ei blaid yn gallu cefnogi'r syniad "oherwydd mae'n mynd yn groes i gyfiawnder naturiol".
"Nid yn unig i ddioddefwyr ond i gymdeithas gyfan," meddai.
"Rwy'n synnu gweld Plaid Cymru, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hyrwyddo'r polisi yma heb gael pleidlais gyhoeddus."
Mae ACau eisoes wedi ymweld â Charchar Berwyn yn Wrecsam a Chanolfan Troseddwyr Ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr i siarad â charcharorion.
Fe ddisgrifiodd un o'r carcharorion y syniad fel un "hanfodol", a dywedodd bod gyda nhw hawliau dynol er gwaetha'r ffaith eu bod yn y carchar,
Dywedodd un arall ei fod yn teimlo "ar wahân i gymdeithas ar ôl cael ei garcharu".
Dywedodd dros hanner o'r carcharorion mewn grŵp gafodd eu holi y bydden nhw'n pleidleisio, ond dywedodd eraill na fyddai carcharorion yn ystyried gwneud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018