Carchar am saethu bwledi ffug ger hofrennydd yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Richard BarnadFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae dyn 44 oed o Bowys wedi cael dedfryd o bum mlynedd o garchar am saethu bwledi tuag at heddlu a gafodd eu hanfon i'w dyddyn gwledig mewn ymateb i bryderon ynghylch ei iechyd meddwl.

Roedd Richard Barnard o Lanwddyn wedi cyfaddef mewn gwrandawiad ym mis Chwefror ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd allai beryglu awyren, sef hofrennydd yr heddlu.

Fe blediodd yr euog hefyd i fod ag arf - gwn baril wedi'i lifio - a dryll ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi pryder y byddai'n defnyddio trais

Dywedodd y barnwr yn Llys Y Goron Caernarfon ei fod yn derbyn mai bwledi ffug a gafodd eu tanio ond doedd hynny ddim yn amlwg i'r swyddogion heddlu ar y pryd.

Yn ôl swyddogion arfog a gafodd eu galw i'r ardal fe gafodd rhwng 12 a 15 o ergydion eu tanio.

Fe adawodd yr hofrennydd yr ardal pan anelodd y diffynnydd arf tuag ato.

Dewr eithriadol

Wrth ddedfrydu Barnard, dywedodd y Cofiadur: "Ar 21 Ionawr fe gafodd yr heddlu eu hysbysu gan eich meddyg bod yna bryderon am eich diogelwch, eich iechyd meddwl a'ch stad feddyliol.

"Fe geisiodd y swyddogion i'ch helpu. Wnaethon nhw ddim ymddangos yn ddirybudd, fe wnaethon nhw eich ffonio rhagblaen.

"Ar y pryd, fe wnaethoch chi wrthod y cynigion o gymorth."

Dywedodd y barnwr bod y ddau heddwas yn "ddewr eithriadol" wrth arestio Barnard ag yntau'n meddu ar ddau arf "brawychus".

Clywodd y llys eu bod 15 medr oddi wrth ddrws y tŷ, lle roedd Barnard yn sefyll, pan gododd ei ddwylo yn ddirybudd a thanio dwy ergyd, gan achosi iddyn nhw redeg yn ôl i'w cerbyd.

Nhw oedd wedi eu galw yn gyntaf i'r eiddo wedi i'r diffynnydd drafod y posibilrwydd o ladd ei hun gyda'i feddyg.

Ymddiheuro

Dywedodd Simon Rogers ar ran yr amddiffyn: "Mae'r diffynnydd yn dymuno ymddiheuro i'r heddlu a phawb a gafodd eu brawychu y diwrnod hwnnw oherwydd ei weithredoedd.

"Mae'n derbyn eu bod nhw ond yna i geisio ei helpu. Er cyd-destun, roedd yn ymwybodol o honiad yn ei erbyn ac mewn lle tywyll iawn, iawn.

"Roedd yn bwriadu lladd ei hun. Cafodd ei gludo i'r ysbyty yn fuan ar ôl cael ei arestio."

Dywedodd Mr Rogers bod y diffynnydd wedi byw gyda gorbryder ac iselder am 10 mlynedd a chael meddyginiaeth, a'i fod eisiau i'r swyddogion heddlu "adael lonydd iddo".

"Does dim amheuaeth y byddai wedi lladd ei hun oni bai am weithredoedd y gwasanaethau brys," meddai. "Chafodd neb anaf corfforol."