Dyn yn cyfaddef saethu bwledi ffug ger hofrennydd heddlu

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd heddlu

Mae dyn o Bowys gafodd ei gyhuddo o saethu bwledi ffug yn agos at hofrennydd yr heddlu wedi cyfaddef ymddwyn mewn ffordd allai beryglu awyren.

Fe ymddangosodd Richard Lawrence Alan Barnard, 44 oed o Lanwddyn, drwy linc fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl mewn gwrandawiad yn Llys y Goron y Wyddgrug ddydd Gwener.

Mae Barnard wedi cyfaddef ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd allai beryglu awyren [hofrennydd heddlu] ar 21 Ionawr eleni.

Fe gyfaddefodd hefyd o fod â dryll ffug yn ei feddiant, gyda'r bwriad o achosi pryder i ddau heddwas y byddai trais yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn.

Mae Barnard wedi gwadu cyhuddiad o fod â gwn baril wedi'i lifio yn ei feddiant gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae'r achos wedi'i ohirio tan 10 Gorffennaf ac mae Barnard wedi'i gadw yn y ddalfa.