Sgriptiwr Dr Who yn cwyno am gynlluniau gwifren wib
- Cyhoeddwyd
Mae'r sgriptiwr teledu Russell T Davies wedi lleisio'i wrthwynebiad i gynlluniau am wifren wib ger ei dŷ ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Mr Davies - sy'n adnabyddus am ei waith ar raglenni fel Doctor Who a Years and Years - y byddai'r cynlluniau'n golygu "48 o bobl bob awr yn hedfan heibio [fy nhŷ] yn sgrechian am chwe mis o'r flwyddyn".
Mae ei gŵynion wedi'u cyhoeddi ar wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol ynghyd â phrotestiadau a chefnogaeth eraill i'r cynnig wrth iddo fynd drwy'r broses gynllunio.
Mae Cwmni City Zip am osod gwifren wib 360m, a fyddai'n mynd o do Gwesty Dewi Sant i dir ger yr Eglwys Norwyaidd.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod nhw eto i ystyried y cais.
'Doctor Who yn dod â £24m i Gaerdydd'
Dywedodd Mr Davies: "Rwy'n gwneud bywoliaeth o ysgrifennu. Rwy'n sgriptiwr teledu; ddes i â Doctor Who i Gaerdydd yn 2005; adeiladwyd Stiwdio y BBC, Porth y Rhath, ar draws y Bae, o dan fy nghymorth.
"Mae'r cyfleuster hwnnw'n dod â, o Doctor Who yn unig, £24m o fusnes y flwyddyn i Gaerdydd.
"Ond nawr rydych chi'n awgrymu fy mod yn eistedd, yn fy nghartref yng Nghaerdydd, ac yn ysgrifennu, gyda 48 o bobl bob awr yn hedfan heibio yn sgrechian am chwe mis o'r flwyddyn."
Ychwanegodd y byddai'n "croesawu'r cyfle i gyflwyno fy ngwrthwynebiad i chi mewn person, neu ar gamera".
Mae BBC Cymru wedi gofyn i The City Zip Company am ymateb i'r sylwadau.
Mae'r cais gan y cwmni'n cynnig rhedeg y cyfleuster rhwng Gorffennaf ac Ionawr, gan orffen am 19:30.
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd yn ystyried y cynlluniau ar amser sydd heb ei bennu.