Cwmduad: A484 yn ailagor wedi Storm Callum

  • Cyhoeddwyd
Tirlithriad Cwmduad
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y tirlithriad yn ystod Storm Callum y llynedd

Mae'r A484 yng Nghwmduad yn Sir Gaerfyrddin wedi ailagor yn llawn am y tro cyntaf yn dilyn tirlithriad ym mis Hydref y llynedd.

Cafodd rhan o'r ffordd ei hailagor ym mis Mawrth yn dilyn gwaith clirio a diogelu, ar ôl y tirlithriad yn ystod Storm Callum.

Bu farw Corey Sharpling, 21 oed o Gastellnewydd Emlyn, ar ôl iddo ddod allan o fws wrth i goeden ddisgyn ar draws y ffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros yr Amgylchedd: "Rwy'n gwybod bod hyn wedi cael effaith fawr ar y gymuned leol ac ar ddefnyddwyr y ffordd ers sawl mis.

"Hoffwn ddiolch i'r tîm priffyrdd am reoli a chwblhau'r gwaith hynod gymhleth hwn, a hefyd i ddefnyddwyr y ffordd a phobl sy'n byw'n lleol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."

Ffynhonnell y llun, Llun y teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Corey Sharpling, 21, yn y digwyddiad y llynedd

Yn ddiweddar, cafodd dau aelod o dîm priffyrdd y cyngor eu hanrhydeddu am eu dewrder ar ôl iddynt fynd i achub gyrrwr gafodd ei lori ei ysgubo i afon Duad yn ystod y storm.

Enillodd Dorian Lewis a Mark Allen y Wobr Dewrder Cymunedol yng Ngwobrau Cymunedol Gorllewin Cymru eleni, am ei dynnu allan o'i gerbyd a ffurfio cadwyn i'w gludo i ddiogelwch.