Gêm gyfartal i Forgannwg yn erbyn Sir Derby yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Marnus Labuschagne oedd prif sgoriwr ail fatiad Morgannwg

Mae'r gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd rhwng Morgannwg a Sir Derby wedi gorffen yn gyfartal.

Dechreuodd yr ymwelwyr y diwrnod olaf ar 504-4, ond roedd y dechrau yn hwyr unwaith eto oherwydd y tywydd ar faes Sain Helen yn Abertawe.

Fe lwyddodd Sir Derby i ychwanegu bron i 100 rhediad arall at eu cyfanswm cyn dod â'u batiad i ben ar 598-5, gan obeithio bowlio Morgannwg allan am lai na 204 i ennill.

Ond roedd batio Morgannwg yn gadarn gyda Nick Selman (70 heb fod allan) a Marnus Labuschagne (83) yn eu llywio i 184-2 yn eu hail fatiad.

Gyda'r amser yn brin fe gytunodd y ddau gapten i ysgwyd llaw ar gêm gyfartal.

Mae'r canlyniad yn gadael Morgannwg yn ail yn y tabl, heb golli yn y bencampwriaeth y tymor hwn.