Trafod diswyddiadau yn ysgol addysg Prifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau eu bod ynghanol proses ymgynghorol i ddiswyddo cyfwerth ag 8.2 o swyddi llawn amser yn yr ysgol Addysg.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol mai "newidiadau demograffig a llai o fyfyrwyr yn cofrestru ar gyfer y cwrs" sydd i'w feio.

Ond mae'r Aelod Cynulliad lleol Siân Gwenllian wedi dweud fod ieithwedd y dogfennau sydd wedi dod i'r fei yn "dangos agwedd sydd angen ei herio".

Daw'r newyddion yn dilyn cyhoeddiad y llynedd y byddai'n rhaid gwneud arbedion gwerth hyd at £5m.

Mewn mater ar wahân, mae hi hefyd wedi dod i'r amlwg bod y brifysgol yn wynebu ymchwiliad i gwynion eu bod wedi torri safonau'r iaith Gymraeg wrth recriwtio staff.

Beth fyddai'r effaith ar addysg?

Mae dogfen ymgynghorol ddaeth at sylw Newyddion 9 yn dangos fod y diswyddiadau posib yn rhan o arbedion gwerth £1.6m ar draws y Coleg Gwyddorau Dynol, gydag awgrym y gallai 15 swydd arall gael eu torri ar draws ysgolion gwahanol.

Dywedodd rhai aelodau staff wrth y BBC eu bod yn poeni am ddyfodol cyrsiau addysg pe bai toriadau'n digwydd.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd staff bod y newyddion yn "bryder mawr" a'u bod yn dymuno "oedi unrhyw benderfyniad".

Ond mae pryder hefyd wedi codi am yr ieithwedd a ddefnyddiwyd o fewn yr ymgynghoriad.

Mae'r ddogfen yn nodi tra bod y brifysgol wedi gwneud "penderfyniad strategol" i gefnogi myfyrwyr AGA (Addysg Gynhwysol Athrawon), mae hynny yn "ychwanegu at lefel y gost".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siân Gwenllian fod ieithwedd y dogfennau yn "dangos agwedd sydd angen ei herio"

Wrth ymateb dywedodd AC Arfon, Siân Gwenllian fod y "ffaith eu bod yn defnyddio geiriau fel'na yn awgrymu fod yna agwedd angen ei herio".

"I fi, blaenoriaethau sy'n gyrru lle 'da chi'n gwario eich arian ac os ydy hi'n flaenoriaeth ganddyn nhw i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mae'n dilyn wedyn eich bod chi'n rhoi arian iddo," meddai.

"Dwi'n meddwl fod y brifysgol yn cymryd y cam gwag os am docio ar eu cryfderau sef dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg."

Yn siarad ddydd Gwener, dywedodd llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Gethin Morgan eu bod yn "gwrthwynebu'r fath ieithwedd".

"Mae UMCB yn bryderus iawn am be' gall y sgil effeithiau fod," meddai.

"Mae'n rhaid cofio hefyd, nid yn unig dysgu maen nhw, ond mae'r ochr bugeiliol sydd yn mynd i fynd ar goll hefyd. Mae angen rhoi stop ar y toriadau cyn i'r sgil effeithiau fynd yn ofnadwy."

Mae llythyr sydd wedi'i arwyddo gan dros 20 o gyn-fyfyrwyr wedi cael ei anfon at yr is-ganghellor yn galw am dro pedol.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol "fod y blynyddoedd diweddar wedi bod yn arbennig o anodd o ran recriwtio athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru".

Rhoddodd y bai ar "dirwedd ariannol heriol" a "lleihad mewn demograffig".

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y brifysgol "wedi'i hachredu i ddarparu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a rhaid iddi barhau i gyflwyno'r rhaglenni i'r safonau disgwyliedig".

"Fel corff annibynnol, y brifysgol ei hun sy'n gyfrifol am faterion staffio. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i brifysgolion ymgysylltu â staff, undebau llafur a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ystyried yr effaith ar staff a myfyrwyr," meddai.

Beth am ymchwiliad y Comisiynydd?

Daw newyddion yr ymgynghoriad wedi i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ddweud ei fod yn ymchwilio i'r sefydliad.

Mae'r BBC yn deall fod swyddfa'r comisiynydd yn ymchwilio i gwynion fod y brifysgol wedi torri safonau'r iaith Gymraeg wrth recriwtio staff yn yr ysgol Iechyd.

Mae llythyr gan y brifysgol, sydd wedi'i weld gan y BBC, yn dangos fod y sefydliad yn "anghytuno" gyda'r honiadau.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod nhw'n gallu "cadarnhau ein bod yn ymateb i ohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg ar faterion yn ymwneud â staffio ym maes Nyrsio".