Fferm Trecadwgan: Cyngor ddim am ailfeddwl
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Penfro wedi dweud nad oes bwriad gan yr awdurdod i atal y broses o werthu un o ffermydd cyngor yn Solfach, er gwaetha ymgyrch gan bobl leol sydd am ei phrynu.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Kilmister wrth gyfarfod cyhoeddus yn Solfach y bydd yr arwerthiant ar gyfer fferm Trecadwgan yn parhau, oni bai bod yna gynnig rhesymol yn cael ei wneud gan yr ymgyrchwyr, a'u bod nhw'n llwyddo hefyd i godi'r ernes o £50,000 cyn yr arwerthiant yng nghanol mis Gorffennaf.
Fe alwodd un o'r ymgyrchwyr, Rupert Dunn, ar y cyngor i roi mwy o amser i bobl leol i godi'r arian gan ddweud eu bod am ddatblygu menter gymunedol.
Yn ôl ymgyrchwyr mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu gwerthu'r safle.
Bu Fferm Trecadwgan yn wag ers mis Mawrth eleni, ac mae disgwyl iddi gael ei gwerthu mewn ocsiwn ar 17 Gorffennaf.
Mae'r ffermdy yn dyddio 'nôl i'r 15fed ganrif, ac mae'r cyngor am ei werthu gydag 11 erw o dir ac 13 o adeiladau allanol.
Mae yna fwriad i lansio ymgyrch cyllido torfol yn ystod y dyddiau nesaf, ynghyd a chynllun cyfranddaliadau er mwyn codi'r swm angenrheidiol.
Fe ddywedodd Mr Dunn wrth y cyfarfod, taw'r peth "graslon" i wneud fyddai tynnu fferm Trecadwgan oddi ar y farchnad.
Yn ôl y Cynghorydd Kilmister, roedd y cyngor dan "straen ariannol enfawr" a doedd hi ddim yn bosib i wneud hynny.
Er taw £450,000 yw'r amcan bris ar gyfer Trecadwgan, fe glywodd y cyfarfod cyhoeddus bod disgwyl i'r pris gwerthu terfynol fod dipyn uwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019