Trigolion Solfach am 'achub' fferm hynafol i'r gymuned

  • Cyhoeddwyd
TrecadwganFfynhonnell y llun, BBC

Mae galwadau cynyddol ar Gyngor Sir Penfro i atal cynlluniau i werthu un o'i ffermydd yn ardal Solfach, wrth i bobl leol ddweud eu bod am ddatblygu menter gymunedol.

Bu Fferm Trecadwgan yn wag ers mis Mawrth eleni, ac mae disgwyl iddi gael ei gwerthu mewn ocsiwn ar 17 Gorffennaf, gydag amcan bris o £450,000.

Mae'r ffermdy yn dyddio 'nôl i'r 15fed ganrif, ac mae'r cyngor am ei werthu gydag 11 erw o dir ac 13 o adeiladau allanol.

Dywed grŵp o bobl leol eu bod eisiau datblygu menter gymunedol yno i gynhyrchu bwyd ac i addysgu pobl am dechnegau ffermio.

Trecadwgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm Trecadwgan wedi bod yn wag ers mis Mawrth

Y bwriad yw gwerthu cyfranddaliadau i ariannu'r fenter yn ôl Cris Tomos, sy'n arbenigwr ar fentrau cymunedol.

"Mae'r trigolion mo'yn mynd ati i geisio codi'r arian a bwrw ati i ail-ddatblygu'r ffarm fan hyn yn Solfach ac yn chwilio am arian fel cyfranddaliadau.

"'Da ni wedi gweld enghreifftiau tebyg gyda Thafarn Sinc a Chanolfan Hermon, a 4CG yn Aberteifi a menter o'r math hynny bydd hi.

"Nawr mae'n rhaid hyrwyddo a hysbysebu ar draws Cymru."

Gerald Miles, ffermwr organig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gerald Miles yn ffermwr organig sy'n credu bydd y fferm yn rhoi cyfle i bobl ifanc

Un sy'n cefnogi'r fenter ydy Gerald Miles, ffermwr organig o bentref Mathri.

Mae gan Mr Miles gysylltiad agos gyda'r fferm gan fod ei gyfnither a'i gwr yn arfer ffermio yn Nhrecadwgan.

"Mae gwmynt o lefydd yr ardal, mae'r ffermydd wedi diflannu, mae investors o bant yn prynu nhw sydd â digon o arian, ac maen nhw'n troi nhw yn dai gwyliau.

"Dwi'n cefnogi prynu i'r gymdeithas, i gael rhai ifanc at ei gilydd i redeg y ffarm... gwneud caws, pobi, cadw creaduriaid, twddi [tyfu] llysiau... bydd e'n rhywbeth diddorol i'r gymdeithas."

Rupert
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rupert Dunne am droi'r fferm yn ymddiriedolaeth

Cydlynydd yr ymgyrch yw Rupert Dunn, ac mae wedi galw ar y cyngor i dynnu'r fferm oddi ar y farchnad er mwyn rhoi cyfle i bobl leol ddatblygu eu gweledigaeth.

"Ein gweledigaeth yw ei throi hi'n ffarm gymunedol, yn ymddiriedolaeth.

"Y gobaith yw y bydd cymuned Solfach yn teimlo perchnogaeth dros y lle a theimlo'n falch ohono.

"Mae yna ddwy brif elfen i'r cynllun. Lle i gynhyrchu bwyd trwy ddilyn egwyddorion biodeinamig ond hefyd lle i gefnogi bywyd gwyllt a darparu addysg i'r gymuned leol."

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Solfach am 18:30 ar 14 Mehefin i drafod y cynlluniau.

Solfach
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fferm wedi ei lleoli uwchben pentref Solfach

Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwrthod yr alwad i dynnu'r fferm oddi ar y farchnad os nad oes pris yn cael ei gytuno arno a blaendal yn cael ei dderbyn cyn dyddiad yr ocsiwn.

"Fe fydd yr arwerthiant yn parhau ar gyfer y tŷ, yr adeiladau allanol ac 11 erw o dir," meddai llefarydd.

Dywedodd fod angen gwerthu'r adeiladau a'r tir er mwyn "sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwyr".

Ychwanegodd: "Fe fyddai yna gost i'r awdurdod os ydyn ni'n canslo neu'n gohirio'r arwerthiant.

"Mae diddordeb gyda ni yn y syniad, ond mae hi'n rhy hwyr yn y dydd.

"Fe fydd fferm arall gyfagos ar gael ym mis Medi ac rydym ni'n barod i drafod y syniad o ddatblygu fferm gymunedol."