Boris: Personoliaeth a all herio Farage, medd AS o Gymru
- Cyhoeddwyd
Boris Johnson yw'r gweildydd mwyaf abl i herio apêl Nigel Farage a dod a chefnogwyr yn ôl i rengoedd y Ceidwadwyr, yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones.
Mae Mr Jones, sydd hefyd yn gyn weinidog Brexit, yn un a oedd yn feirniadol iawn o strategaeth Theresa May ond yn un sy'n credu y gall Mr Johnson sicrhau Brexit erbyn 31 Hydref.
Mae Mr Jones, AS Gorllewin Clwyd, yn un o 114 ASau Ceidwadol sydd wedi cefnogi ymgyrch Mr Johnson ar gyfer arweinyddiaeth y blaid ac olynydd Theresa May fel prif weinidog.
Bydd rhagor o bleidleisiau yr wythnos hon er mwyn dewis dau enw fydd yn mynd i bleidlais derfynol ymhlith holl aelodau cyffredin y blaid.
O'r wyth AS Ceidwadol o Gymru, mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn cefnogi Mr Johnson, tra bod David Davies, AS Mynwy, yn cefnogi Dominic Raab.
"Dio ddim just yn fater o'r Blaid Lafur," meddai Mr Jones wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.
"Beth sy'n fwy pwysig ar y funud yw Plaid Brexit.
"Yr arweinydd yw Nigel Farage, personoliaeth bywiog arall, ac mae gan Boris y gallu i gystadlu ag o.
"O'r holl ymgeiswyr, fo yw'r mwyaf tebygol o allu gwneud hynny."
Pleidlais derfynol
Yn ystod yr etholiadau Ewropeaidd fe wnaeth Plaid Brexit gipio dwy o'r pedair sedd yng Nghymru.
Yn ôl Mr Jones, un o'r rhesymau am hyn oedd methiant Mrs May i sicrhau Brexit erbyn 31 Mawrth.
Fe wnaeth yr aelod seneddol hefyd amddiffyn penderfyniad Mr Johnson i beidio cymryd rhan yn drafodaeth deledu ddydd Sul gyda'r ymgeiswyr eraill - Jeremy Hunt, Michael Gove, Dominic Raab, Sajid Javid a Rory Stewart.
"Y cyfnod mwyaf pwysig, yw pan fydd yr holl wlad yn talu mwy o sylw sef yn ystod y bleidlais ymhlith yr aelodau cyffredin, "meddai Mr Jones.
"Fe fydd digonedd gyfle i gwestiynu Boris adeg yna."
Bydd dros 100,00 o aelodau Ceidwadol yn cymryd rhan yn y bleidlais derfynol, gyda disgwyl penderfyniad ym mis Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019
- Cyhoeddwyd24 Mai 2019