Theresa May i ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Theresa May wedi cyhoeddi y bydd hi'n ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol ar 7 Mehefin.
Mewn datganiad fore Gwener, dywedodd Mrs May ei bod am gamu o'r neilltu fis nesaf wedi bron i dair blynedd yn y swydd.
Bydd y broses o ethol arweinydd Ceidwadol newydd yn dechrau ar 10 Mehefin, ond bydd Mrs May yn aros fel Prif Weinidog nes y bydd olynydd wedi'i ethol.
Mewn datganiad emosiynol y tu allan i 10 Downing Street dywedodd Mrs May ei bod wedi "gwneud fy ngorau" i barchu canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd y byddai'n parhau'n siom iddi nad oedd modd iddi gyflawni proses Brexit, ond y byddai Prif Weinidog newydd "yn niddordebau'r wlad".
Daeth Mrs May yn Brif Weinidog ac yn arweinydd ar y Blaid Geidwadol ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn ymddiswyddiad David Cameron.
Mae'n debygol y bydd ei chyfnod fel Prif Weinidog yn cael ei gofio'n bennaf am ei methiant i sicrhau Brexit wedi canlyniad y refferendwm o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth Mrs May gyflwyno ei chynllun diweddaraf i adael yr Undeb Ewropeaidd ger bron Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Roedd hi'n ymddangos fel nad oedd cefnogaeth ddigonol ar gyfer y cytundeb ac o ganlyniad daeth galwadau niferus o fewn y Blaid Geidwadol iddi ymddiswyddo.
'Newid arweinydd yn newid dim'
Yn ymateb i'r ymddiswyddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Dydw i erioed wedi amau ymroddiad y Prif Weinidog i wasanaeth cyhoeddus na'i hymrwymiad i wneud ei gwaith, ac rwy'n dymuno'n dda iddi yn y dyfodol.
"Fodd bynnag, ei llinellau coch hi sydd wedi ei harwain at ddiwedd y ffordd a'n gadael ni mewn llanast a grëwyd ganddi hi.
"Gornest am yr arweinyddiaeth yw'r peth diwethaf sydd ei angen ar y wlad wrth i ni negodi un o'r heriau mwyaf mae'n gwlad wedi'i wynebu ers degawdau.
"Mae'r gobaith o sicrhau Brexit trefnus - un sy'n diogelu ein heconomi a swyddi - erbyn 31 Hydref nawr yn llai tebygol eto.
"Fydd newid arweinydd yn newid dim - mae gwir angen dull newydd o edrych ar Brexit, a hynny ar sail cyfaddawd, er mwyn pontio'r rhaniadau yn ein gwlad."
Ar Twitter fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ddweud ei fod wedi bod yn dyst i "ymroddiad llwyr y Prif Weinidog at Gymru lewyrchus".
Mae AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb hefyd wedi diolch i Mrs May am ei hymdrechion "ar ran y wlad ranedig yma".
Ychwanegodd bod swydd y Prif Weinidog "bron yn amhosib dan yr amgylchiadau presennol".
'Cyfnod anodd iawn'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies AC, bod rhaid i'r blaid ddod at ei gilydd nawr "er mwyn sicrhau bod Brexit yn cael ei ddelifro".
"Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog ar ran y Ceidwadwyr Cymraeg am ei hymroddiad i Gymru dros y blynyddoedd," meddai.
"Hi yw'r ail Brif Weinidog benywaidd yn hanes y wlad ac mae hynny'n gyflawniad arbennig, fe wnaeth hi hefyd gamu i'r swydd mewn cyfnod anodd iawn."
Yn ôl cyn-arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies, mae Mrs May wedi gwneud "gwaith arbennig" yn gwasanaethu ei phlaid a'i gwlad dros y blynyddoedd.
Gwrthod cyfaddawdu
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod hyn yn ddechrau ar frwydr newydd dros Brexit.
"Er fy mod yn anghytuno'n gryf gyda Theresa May ar bron bob mater, mae ei haraith yn dangos ei hymrwymiad i wneud yr hyn yr oedd hi'n credu oedd orau," meddai.
"Fe wnaeth Mrs May siarad am gyfaddawdu, ond yn syml roedd hynny yn rhywbeth nad oedd hi'n fodlon gwneud ei hun.
"Drwy lynu at ei llinellau coch fe wnaeth hi anwybyddu buddiannau Cymru a miliynau o bobl dros y DU oedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio i'r ymylon gan y ffordd y gwnaeth hi ymdrin â Brexit.
Ychwanegodd: "Efallai mai hyn yw'r diwedd i'r Prif Weinidog, ond dyma'r dechrau ar frwydr newydd dros Brexit."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2019