Pencampwriaeth Dan-20 y Byd: Cymru 8-7 Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Cymru Dan-20 v Seland Newydd Dan-20Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n herio un ai Iwerddon neu Loegr yn eu gêm olaf yn y bencampwriaeth

Mae tîm rygbi dan-20 Cymru wedi trechu Seland Newydd ym Mhencampwriaeth Dan-20 y Byd yn Yr Ariannin.

Cymru gafodd unig gais yr hanner cyntaf wrth i'r canolwr Tiaan Thomas-Wheeler fanteisio ar gamgymeriad amddiffynnol gan y Crysau Duon er mwyn croesi yn y gornel.

Ar ôl 30 munud o chwarae cafodd y gêm ei hatal am dros awr wrth i'r chwaraewyr ddisgwyl i storm wneud ei ffordd dros ddinas Rosario.

Cafodd clo Seland Newydd, Samipeni Finau ei yrru i'r gell gosb ar ddechrau'r ail hanner am dacl uchel ar Ioan Davies allai'n hawdd fod wedi gweld cerdyn coch.

Fe wnaeth y sgôr aros yn 5-0 i Gymru nes 10 munud o'r diwedd, pan groesodd Tupou Va'ai am gais gafodd ei drosi gan Fergus Burke.

Aeth Cymru yn ôl ar y blaen gyda munud yn unig yn weddill trwy gic gosb gan Cai Evans, cyn i Burke fethu gyda chyfle am driphwynt gyda chic olaf y gêm.

Roedd Cymru wedi gorffen yn drydydd yng Ngrŵp A, tra bod Seland Newydd wedi dod yn ail yng Ngrŵp C.

Bydd Cymru nawr yn chwarae un ai Iwerddon neu Loegr i weld pwy fydd yn gorffen yn bumed ym Mhencampwriaeth Dan-20 y Byd.