Damwain i Geraint Thomas yn y Tour de Suisse
- Cyhoeddwyd
Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi tynnu 'nôl o ras y Tour de Suisse yn dilyn damwain ar y pedwerydd cymal ddydd Mawrth.
Dywedodd Team Ineos bod y Cymro wedi cael ei gymryd i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Ond roedd Thomas i'w weld yn eistedd i fyny ac yn siarad gydag aelodau o'i dîm cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd mewn ambiwlans.
Daw lai na thair wythnos cyn iddo ddechrau amddiffyn ei deitl fel pencampwr y Tour de France, gyda'r ras eleni'n dechrau ar 6 Gorffennaf.
Mae Team Ineos eisoes wedi colli Chris Froome, sydd wedi ennill y Tour ar bedwar achlysur, fydd allan o'r gamp am o leiaf chwe mis wedi iddo gael damwain ddrwg yr wythnos ddiwethaf.
Mae hynny'n golygu mai Thomas, 33, yw arweinydd amlwg y tîm ar gyfer y Tour de France eleni.
Fe wnaeth Team Sky droi'n Team Ineos yn gynharach eleni wedi iddo gael ei brynu gan y cwmni cemegol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd9 Awst 2018