Beiciwr modur ifanc yn ddifrifol wael wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Bishopston brynhawn Mawrth
Mae beiciwr modur 18 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Dywed Heddlu De Cymru bod y dyn lleol wedi cael anafiadau sy'n peryglu ei fywyd o ganlyniad i'r digwyddiad yn Ffordd Bishopston, Trelái.
Mae'r heddlu'n gofyn am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur KTM oren a char Ford Focus glas tua 15:05 brynhawn Mawrth, neu a welodd y cerbydau cyn y digwyddiad.
Mae'r beiciwr modur yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Chafodd gyrrwr y car ddim anaf.