Cadarnhad mai dyn coll gafwyd yn farw yn Afon Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Colin PurtonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd Colin Purton o'i gartref ddydd Mercher 22 Mai

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai corff pensiynwr coll gafodd ei ddarganfod yn Afon Dyfrdwy bythefnos yn ôl.

Roedd yna apêl am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i Colin Purton ar ôl iddo ddiflannu o'i gartref ym Mhen-y-ffordd ar 22 Mai.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ychydig wedi 06:00 ar 6 Mehefin.

Dywedodd llefarydd yr heddlu: "Nid yw'n ymddangos bod unrhyw amgylchiadau amheus ynghylch y farwolaeth a bydd ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner."

Mae teulu'r pensiynwr 78 oed wedi cael gwybod wedi proses adnabod ffurfiol.

Cafodd Mr Purton ei weld ddiwethaf ar gamerâu cylch cyfyng yn teithio ar fws o'r Wyddgrug.