Dewis grwpiau rhanbarthau rygbi Cymru yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
GweilchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweilch fydd unig gynrychiolwyr Cymru yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl trechu'r Scarlets mewn gêm ail-gyfle

Mae rhanbarthau Cymru wedi cael gwybod pwy fyddan nhw'n herio yng nghystadlaethau Ewrop y tymor nesaf, gyda'r Gweilch i herio pencampwyr presennol Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Bydd Saracens yn cael eu croesawu i Stadiwm Liberty, ynghyd â dau dîm cryf arall - Munster a Racing 92.

Y Gweilch fydd yr unig dîm o Gymru fydd yn cystadlu yn y brif gystadleuaeth y tymor nesaf, gyda'r tri rhanbarth arall yn cymryd rhan yn y Cwpan Her.

Fe fydd y Scarlets yn croesawu dau glwb o Ffrainc - Toulon a Bayonne - a London Irish i Barc y Scarlets yn y gystadleuaeth honno.

Bydd pencampwyr Cwpan Her Ewrop yn 2010 a 2018, Gleision Caerdydd, yn herio Caerlŷr, Pau a Calvisano o'r Eidal.

Mae'r Dreigiau yn wynebu taith i Rwsia i wynebu Enisei, ynghyd â Castres a Chaerwrangon.

Cwpan Pencampwyr Ewrop

Grŵp pedwar: Saracens, Munster, Racing 92, Gweilch

Cwpan Her Ewrop

Grŵp Un: Castres, Caerwrangon, Dreigiau, Enisei

Grŵp Dau: Scarlets, Toulon, London Irish, Bayonne

Grŵp Pump: Gleision Caerdydd, Caerlŷr, Pau, Calvisano