Tai o ansawdd gwael yn costio £95m GIG Cymru

  • Cyhoeddwyd
tai

Mae tai o ansawdd gwael yn costio mwy na £95m y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd mewn costau triniaeth, yn ôl adroddiad newydd.

Daw'r canfyddiadau gan asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), sy'n dweud fod 18% o gartrefi yng Nghymru yn peri risg annerbyniol i iechyd.

Dywed hefyd y byddai gwario arian ar wella cartrefi yn denu elw i gymdeithas gyfan.

Mae adroddiad ICC, ar y cyd â Chartrefi Cymunedol Cymru, yn edrych ar effaith ansawdd tai, cartrefi anaddas a digartrefedd ar iechyd a llesiant yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, Cymru sydd â'r tai hynaf yn y Deyrnas Unedig, ynghyd â'r costau trin uchaf sy'n gysylltiedig â thai gwael.

Gan ddefnyddio tystiolaeth o bob rhan o'r byd, mae'r adroddiad yn dweud y byddai blaenoriaethu gwariant ar leihau tai gwael yn arwain at enillion i bob rhan o gymdeithas.

'Cost-effeithiol'

Ymhlith ei argymhellion, mae'r adroddiad yn annog camau gweithredu i fynd i'r afael ag achosion afiechyd sy'n gysylltiedig â thai o ansawdd gwael.

Mae'r rhain yn cynnwys gwella gwresogi, effeithlonrwydd thermol ac awyru cartrefi, gyda chamau gweithredu fel inswleiddio tai hŷn.

Dywedodd Louise Woodfine, prif arbenigwr iechyd cyhoeddus ac arweinydd tai ar gyfer ICC: "Nid yw'r achos dros fuddsoddi mewn tai i wella iechyd a llesiant erioed wedi bod yn gryfach.

"Gan Gymru y mae'r stoc tai hynaf yn y DU, a'r costau triniaeth uchaf yn gyfatebol sy'n gysylltiedig â thai gwael.

"Mae ein hadroddiad yn canfod bod camau gweithredu nawr i wella ansawdd tai, sicrhau tai addas, a mynd i'r afael â digartref yn gost-effeithiol iawn.

"Mae angen i hyn gael ei ategu gan gamau gweithredu i leihau anghydraddoldeb tai, ac alinio tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach."