Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn gwybod trefn eu gemau
- Cyhoeddwyd
Mae tri o glybiau Cymru - Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd - wedi cael gwybod trefn eu gemau yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr y tymor nesaf.
Gyda Chaerdydd ac Abertawe yn yr un gynghrair am y tro cyntaf ers tymor 2013/14, bydd y ddau elyn yn herio'i gilydd ym mis Hydref a mis Ionawr.
Bydd Abertawe yn croesawu Caerdydd i Stadiwm Liberty yn y Bencampwriaeth ar 26 Hydref, gyda'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 11 Ionawr.
Fe fydd Caerdydd yn dechrau eu tymor gyda gêm oddi cartref yn Wigan ar 3 Awst, tra bod Abertawe yn croesawu Hull i Stadiwm Liberty ar yr un diwrnod.
Luton fydd y tîm cyntaf i gael eu croesawu i Gaerdydd, gyda'r gêm honno wythnos yn ddiweddarach, ar 10 Awst.
Bydd Casnewydd yn herio Mansfield yn Rodney Parade ar ddiwrnod cyntaf y tymor yn Adran Dau ar 3 Awst, cyn cloi eu tymor gartref i Northampton ar 25 Ebrill.
Fe fydd gêm olaf Abertawe oddi cartref yn Reading ar 2 Mai, tra bod Caerdydd yn herio Hull yn y brifddinas ar yr un diwrnod.
Cwpan y Gynghrair
Nos Iau fe gafodd Abertawe a Chasnewydd wybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rownd gyntaf Cwpan y Gynghrair eleni.
Bydd yr Elyrch yn wynebu Northampton yn Stadiwm Liberty, tra bod Casnewydd yn wynebu taith i Gillingham.
Mae disgwyl i'r gemau hyn gael eu chwarae ar unai 13 neu 14 Awst.
Bydd Caerdydd yn ymuno â'r gystadleuaeth yn yr ail rownd.