Pencampwriaeth Dan-20 y Byd: Lloegr 45-26 Cymru
- Cyhoeddwyd
Lloegr sydd wedi cipio y pumed safle ym Mhencampwriaeth Dan-20 y Byd yn Yr Ariannin wedi iddynt drechu Cymru o 45 i 26.
Roedd hi'n ddechrau da i'r Saeson wrth iddyn nhw sgorio un cais ar ôl y llall ac erbyn hanner amser roeddent wedi sgorio 28 o bwyntiau tra bod sgorfwrdd y Cymry yn wag.
Ond roedd y Cymry yn fwy bywiog yn yr ail hanner ac fe sgoriont bedwar cais.
Y sgorwyr i Gymru oedd Jac Morgan, Dewi Lake, Ed Scragg a Rio Dyer ac roedd cicio Cai Evans yn llwyddiannus.
Cyn diwedd y gêm daeth chweched cais i'r Saeson a'r sgôr terfynol oedd Lloegr 45, Cymru 26.
Yn gynharach yn y mis fe drechodd Cymru, Seland Newydd yn y Bencampwriaeth.
Mae Lloegr felly yn y pumed safle yn y Bencampwriaeth a Chymru yn chweched.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2019