Cyrraedd copa'r Wyddfa mewn cadair olwyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bethany a'i 'hangylion' sydd am fynd fyny'r Wyddfa er mwyn 'diolch' i elusen

Bydd merch 16 oed o Geredigion, sydd wedi cael niwed i linyn ei chefn, yn ceisio cyrraedd copa'r Wyddfa mewn cadair olwyn ddydd Sadwrn.

Bwriad Bethan Francis o Gilcennin ger Aberaeron ydy codi ymwybyddiaeth ac arian i elusen sydd wedi bod yn ei chynorthwyo hi a'i theulu i ddod i delerau gyda'i hanafiadau a'r heriau o ddibynnu ar gadair olwyn.

Cafodd Bethany ei hanafu mewn damwain car pan yn ychydig fisoedd oed ac ers hynny mae hi wedi dibynnu ar gymorth ei rhieni.

Ym mis Gorffennaf fe fydd Bethany yn erbyn Gwobr Diana am ei gwaith yn gwirfoddoli gyda phlant a phobl ifanc arall.

Ffynhonnell y llun, Bethany's Angels
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethany a'r criw o wirfoddolwyr wedi bod yn ymarfer ar sawl llethr yng Ngheredigion wrth baratoi ar gyfer yr her, gan gynnwys Craig Glais yn Aberystwyth

"Fi yn un o bymtheg sy'n mynd i ddringo'r Wyddfa," meddai Bethany, sydd newydd gwblhau ei harholiadau TGAU yn Ysgol Uwchradd Aberaeon.

Ers sawl wythnos mae hi, ei thad Ray, a grwp o wirfoddolwyr, sy'n galw eu hunain yn 'Angylion Bethany' wedi bod yn ymarfer ar gyfer yr her drwy ddringo rhai o fynyddoedd canolbarth Cymru.

"Fi'n mynd mewn cadair olwyn a ma nhw'n tynnu a pwsho fi lan," meddai, " ac mae'r hyfforddi wedi bod yn galed ond yn lot o hwyl hefyd, achos ry' ni i gyd yn dod ymlaen."

"Mae rhai'n ffrindiau gyda fi, rhai yn ffrindiau gyda Mam, ond ma rhai yn dweud bo nhw'n fodlon helpu a bo nhw jest ishe neud e."

Bydd Bethany yn dringo'r mynydd mewn cadair sydd wedi cael ei haddasu'n arbennig - cadair sydd newydd gyrraedd yn ôl i Brydain ar ôl bod gyda defnyddiwr arall ar fynydd Kilimanjaro.

Barod i wneud eleni

Ei Mam, Dawn, oedd yr un a ysgogodd Bethany i fynd am yr her, ar ôl iddyn nhw fel teulu dderbyn cymorth gan yr elusen Back Up.

Bu Bethany ar sawl cwrs gyda'r elusen, gan ddysgu sgiliau cadair fydd yn ei galluogi hi i fod yn fwy annibynnol.

"Dyw Bethany methu teimlo dim byd o'r cheseiliau i lawr" meddai Dawn sydd yn fam i bump o blant eraill hefyd.

"Ma cwrdd â'r elusen wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ni fel teulu", meddai, "ma nhw wedi mynd i'r ysgol, wedi supportio ni gyda adaptions, ac ma nhw 'di siarad â phlant yn yr ysgol ambwyti spinal chord injury hefyd."

"Ond y peth mwyaf ydy mae Bethany wedi cael fwy o confidence ers gweithio gyda Back Up," meddai Dawn, "ac er bo fi wedi gofyn iddi sawl tro a oedd hi eisiau cymryd rhan yn yr her roedd hi'n teimlo eleni ei bod hi'n barod i wneud."

Ffynhonnell y llun, Bethany's Angels
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y rheiny fydd yn cerdded gyda Bethany ddydd Sadwrn mae ei thad, Ray, sydd yn y rhes gefn yn gwisgo sbectol yn y llun

Ers sawl blwyddyn bellach mae Bethany wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r elusen, yn siarad gyda phlant eraill sy'n wynebu'r un heriau â hi. Yn ddiarwybod iddi cafodd hi ei henwebu am ei gwaith gwirfoddol, ac fe glywodd hi rai wythnosau'n ôl ei bod hi wedi ennill un o'r gwobrau a gafodd eu sefydlu yn dilyn marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru.

"O'n i'n hollol 'shocked," meddai.

"Bydda i'n mynd i Llundain mis nesa nawr i gael y wobr, i Dŷ'r Arglwyddi, ac bydd Earl Spencer, brawd Diana, yna.

"O'dd dim cliw 'da fi bod yr elusen wedi gwneud hwnna, ac o'dd e'n gymaint o sioc, ac ma pawb mor hapus i fi."

"Sa i'n mendio gwirfoddoli o gwbl" meddai, "mae 'di gwneud gwahaniaeth mawr, oherwydd wy'n gwbod sa i ar ben fy hun, ma pobl arall mewn cadair olwyn fel fi, ac mae'n neis i siarad gyda nhw a gwybod be ma nhw'n gwneud hefyd."

Fis Medi mae hi'n gobeithio dychwelyd i'r chweched dosbarth yn Ysgol Aberaeron cyn dilyn gyrfa fel therapydd lleferydd a iaith.

Ond cyn hynny mae'n troi ei golygon at ddringo'r Wyddfa gyda'r criw ddydd Sadwrn.

"Ma'r tîm gore wedi gwneud e mewn dwy awr a phump deg wyth munud," meddai Bethany, "ond fi'n credu newn ni fe mewn pump i chwech awr."