Dyn wedi marw mewn gŵyl gwrw yng Ngŵyr

  • Cyhoeddwyd
Drinkers enjoying the sun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr ŵyl gwrw yn cael ei chynnal ar fferm Castell Weble

Mae dyn wedi marw mewn gŵyl gwrw yng Ngŵyr.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i fferm Castell Weble yn Llanrhidian, lle roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal, oddeutu 18:35 nos Wener.

Dywed plismyn iddynt gael eu galw i ddelio â "digwyddiad meddygol brys" ond bod y dyn 23 oed wedi marw yn y fan a'r lle er gwaethaf eu hymdrechion.

Dyw marwolaeth y dyn ddim yn cael ei thrin fel un amheus ac mae'r crwner a'r teulu agosaf wedi cael gwybod.