Tasglu Ford heb gyfarfod am 8 mis cyn cyhoeddi cau ffatri

  • Cyhoeddwyd
Ford
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ffatri Ford ym Mhen-y-bont yn cau ym mis Medi 2020

Nid oedd tasglu a gafodd ei sefydlu i amddiffyn swyddi yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont wedi cwrdd am wyth mis cyn i'r cwmni gyhoeddi bod y ffatri yn cau.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw'r sefyllfa yn "syfrdanol" gan ddweud bod hyn yn "awgrymu diffyg cymryd cyfrifoldeb ac yn symptomaidd o blaid sydd yn cysgu wrth lyw llywodraeth".

Cyhoeddodd Ford eu bod yn cau'r safle ar 5 Mehefin, gyda 1,700 o swyddi yn cael eu colli.

Cafodd y gweithgor arbennig ei sefydlu yn 2017 i warchod swyddi a diogelu dyfodol y safle.

Nid oedd y grŵp wedi cyfarfod rhwng 9 Gorffennaf 2018 a 18 Mawrth eleni.

Dywedodd Mr Price: "Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol o ran beth yn union roedd y llywodraeth yn ei wneud yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn lle'r oedd dyfodol y safle dal i fod yn y fantol."

'Anghredadwy'

Llywodraeth Cymru oedd yn cadeirio'r grŵp, ac roedd yna gynrychiolaeth o Ford Europe, Ford UK, y Swyddfa Gymreig, Adran Busnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, Fforwm Moduro Cymru, ac Undeb Unite.

"Roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod ym mis Ionawr eleni y gallai'r ffatri wynebu colled bosibl o dros fil o swyddi," ychwanegodd Mr Price.

"Mae'n anghredadwy felly na lwyddodd tasglu Llywodraeth Cymru gwrdd â Ford tan ddau fis yn ddiweddarach."

Fe wnaeth y gweithgor gyfarfod pum gwaith yn y tri mis ar ôl ei sefydlu, ond dim ond unwaith yn yr 11 mis cyn y cyhoeddiad cau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd ffatri Ford ym Mhen-y-bont yn 1980

I gyd gyda'i gilydd, fe wnaeth y grŵp gyfarfod 11 o weithiau; ar 30 Hydref 2017, 13 Tachwedd 2017, 27 Tachwedd 2017, 29 Ionawr 2018, 8 Chwefror 2018, 24 Ebrill 2018, 12 Mehefin 2018, 9 Gorffennaf 2018, a 18 Mawrth 2019.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn ymosodiad sinigaidd nad yw mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu'r amser a'r ymdrech a roddwyd i gefnogi ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr a'i weithlu gan Lywodraeth Cymru.

"Mae gweinidogion Cymru a'u swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Ford yn rheolaidd iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf i archwilio opsiynau masnachol mewnol ar gyfer y safle.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud eu gorau glas i gadw ffatri Pen-y-bont ar agor - gan gynnwys gwneud buddsoddiad sylweddol yn y safle a'i weithlu - ac nid yw'n ymddiheuro o gwbl am barhau i wneud hynny er mwyn cadw swyddi a chynhyrchu o ansawdd da yn yr ardal."