Dyn 73 oed o dde Cymru ar goll ar ynys yng Ngroeg

  • Cyhoeddwyd
John TossellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Tossell wedi bod ar goll ar ynys Zante ers wythnos

Mae teulu o dde Cymru yn apelio am help i ddod o hyd i'w tad 73 oed sydd wedi mynd ar goll yng Ngroeg.

Does neb wedi gweld John Tossell o Ben-y-bont ar Ogwr ers iddo fynd i gerdded i fynachlog ar fynydd ar ynys Zante ddydd Llun diwethaf.

Mae'r gwasanaethau brys yno wedi bod yn chwilio amdano trwy gydol yr wythnos, ond maen nhw bellach wedi lleihau eu hymgyrch.

Mae teulu Mr Tossell wedi mynd draw i Zante i chwilio amdano, ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sy'n ymweld â'r ynys i gadw golwg amdano.

'Wedi'i weld gan berchennog caffi'

"Roedd ar wyliau gyda'i wraig, Gill," meddai ei ferch, Katy Tossell.

"Dyma oedd eu trydydd diwrnod yno - fe gyrhaeddon nhw ddydd Gwener ac aeth ar goll ddydd Llun.

"Fe adawodd am 10:00 ac rydyn ni'n gwybod ei fod wedi cyrraedd y fynachlog am ei fod wedi cael ei weld yno gan berchennog caffi.

"Ond wedi iddo beidio cyrraedd nôl fe wnaeth Gill gysylltu â'r heddlu."

Ffynhonnell y llun, Dominik Rosner
Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Tossell wedi mynd i gerdded mynyddoedd yr ynys pan aeth ar goll

Ychwanegodd Ms Tossell bod yr heddlu, gwylwyr y glannau a thimau achub mynydd wedi bod yn chwilio amdano, ond bod yr ymgyrch wedi cael ei leihau ddydd Llun.

"Doedd ganddo ddim pasbort a dim ond rhyw €10," meddai.

"Mae'n 73 ond yn hoff o fynd i gerdded - mae'n ddyn eithaf heini."

'Aros ar y llwybrau'

Dywedodd Socrates Valvis, perchennog bar ar yr ynys fu'n rhan o'r chwilio am Mr Tossell, ei fod "wedi synnu" nad ydyn nhw wedi dod o hyd iddo eto.

"Mae'n rhaid i chi aros ar y llwybrau - mae'n rhy anodd mynd traws gwlad, a dydy'r geifr ddim yn mynd yno hyd yn oed," meddai.

"Rwy'n mynd i redeg yno, a dydy hi ddim yn bosib i mi fynd oddi ar y llwybrau."

Ychwanegodd bod y tymheredd wedi bod yn uchel iawn ar yr ynys dros yr wythnos ddiwethaf.