1,000 o Gymry yn gweithio ar brosiect Hinkley Point C

  • Cyhoeddwyd
Hinkley Point CFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd gweld y craeniau sy'n codi Hinkley Point C o arfordir de Cymru, 14 milltir i ffwrdd

Mae un gweithiwr ymhob pedwar sy'n rhan o'r prosiect i godi gorsaf niwclear Hinkley Point C yn ne-orllewin Lloegr yn dod o Gymru.

Ar hyn o bryd mae 4,000 yn gweithio ar y safle yng Ngwlad yr Haf, gyda 1,000 yn dod o du draw i afon Hafren.

Erbyn diwedd yr haf fe fydd y nifer yn cynyddu ymhellach wrth i fwyafrif y prentisiaid o brosiect Wylfa Newydd symud yno ar ôl i'r cynllun ar gyfer gorsaf newydd ar Ynys Môn ddod i stop.

Roedd y cwrs prentisiaeth yng Ngholeg Llandrillo Menai yn Llangefni yn cael ei ariannu gan ddatblygwyr Wylfa Newydd, cwmni Horizon.

Ond fis Ionawr, fe gyhoeddodd perchennog Horizon - Hitachi - eu bod yn rhoi'r gorau i gynllun Wylfa Newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Kieron Salter yw un o'r prentisiaid o Fôn fydd yn symud i Wlad yr Haf

Mae Kieron Salter newydd gwblhau'r cwrs, a bydd yn symud i Wlad yr Haf i ddechrau ar gwrs gradd yn y diwydiant niwclear gyda chwmni EDF sy'n codi gorsaf bŵer Hinkley Point C.

"Dwi'n edrych ymlaen. Dwi methu disgwyl i fynd lawr yna. Mae'n her newydd, rhywbeth gwahanol," meddai.

"Mae'n siom 'mod i'n gorfod gadael achos o'n i'n gobeithio defnyddio'r sgiliau dwi wedi eu dysgu yma yng ngorsaf Wylfa.

"Ond oherwydd y sgiliau dwi wedi dysgu yma, mae'n gadael i mi symud i lefydd arall ym Mhrydain fel dwi'n gwneud efo EDF rŵan.

"O'n i bob tro'n meddwl bod 'na siawns i mi fynd ar draws y byd i gyd efo'r swydd yma, felly do'n i ddim yn cyfyngu fy hun i Sir Fôn, ond fyswn i wedi licio aros yma."

'Angen swyddi hirdymor'

Mae Wylfa Newydd ymhlith nifer o brosiectau mawr oedd ar y gweill yng Nghymru na fydd yn gweld golau dydd, gan gynnwys morlyn Bae Abertawe, trydaneiddio'r rheilffordd o Abertawe i Gaerdydd, a llwybr newydd i draffordd yr M4 ger Casnewydd.

Mae'r rhesymau dros wneud hynny yn amrywio o brosiect i brosiect.

Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, er bod prosiectau adeiladu yn bwysig, fod angen cadw golwg ar swyddi mwy hirdymor.

"Mae'n anochel bron bod pobl yn dilyn y cyfleoedd, achos yn aml iawn pan mae 'na gyfleoedd adeiladu fel hyn - swyddi datblygu yn benodol - swyddi dros dro ydyn nhw," meddai.

"Be' 'da ni eisiau meddwl amdano ydy'r swyddi hirdymor sy'n galluogi pobl i roi gwreiddiau lawr ac ati."

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cwmni Hitachi atal y gwaith ar gynllun Wylfa Newydd ym mis Ionawr

Ond mae eraill yn gofyn beth ydy effaith colli prosiectau ar yr hyder yma yng Nghymru.

Dywedodd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor: "Tydi o ddim yn edrych yn dda i Gymru.

"Wrth gwrs mae enw ein gwlad yn cael ei roi wrth ymyl y prosiectau yma.

"Er dim bai Cymru ydy o bob tro bod y prosiectau'n methu, mae'n enw ni'n gysylltiedig efo'r prosiectau yma."