Côr y Penrhyn yn edrych ymlaen at berfformiad Glastonbury

  • Cyhoeddwyd
Cor yn perfformio hefo GBQFfynhonnell y llun, LumenLounge
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r côr eisoes wedi perfformio hefo Damon Albarn a'i fand yn Blackpool a'r Palladium

Am y tro cynta' yn hanes yr ŵyl, bydd côr meibion o Gymru'n perfformio yn Glastonbury dros y penwythnos.

Bydd Côr y Penrhyn, o Fethesda, yn rhannu llwyfan gyda Damon Albarn - ddaeth yn enwog gyda'r grwpiau Blur a Gorillaz.

Mae ardal Dyffryn Ogwen wedi ysbrydoli nifer o gerddorion a bandiau dros y blynyddoedd, o'r Maffia a Celt i Gruff Rhys a 9Bach.

Mae'r côr meibion lleol, Côr y Penrhyn, wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers canol yr 20fed Ganrif, ond rŵan maen nhw wedi cyrraedd cynulleidfa newydd yn sgil eu gwaith hefo'r cerddor Damon Albarn.

Y côr sy'n gefndir i Albarn a'i fand The Good, The Bad and The Queen ar y gan Lady Boston.

Disgrifiad,

Bydd Côr y Penrhyn yn perfformio yn Glastonbury

Daeth y cysylltiad ar ôl i Albarn ofyn i'w gyd-gerddor Gruff Rhys - canwr y Super Furry Animals, sydd o Rachub ger Bethesda - am awgrym o gorau meibion allai ganu ag o.

Cysylltodd Gruff gyda Rheinallt Puw, aelod o'r côr a chyn 'roadie' gyda'r Super Furries, ac yna teithiodd cyfarwyddwr y côr, Owain Arwel Davies, i lawr i Lundain i gwrdd ag Albarn.

Fe gydweithion nhw ar y gân Lady Boston, gydag Owain Arwel Davies yn cyfansoddi'r trefniant corawl ei hun.

Yna fe deithiodd y band i fyny i ogledd Cymru i recordio'r sengl gyda'r côr yng Nghastell Penrhyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glastonbury yn denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn

Ar ôl y castell, gŵyl Glastonbury sy'n goron ar y cyfan.

Bydd Côr y Penrhyn yn perfformio gydag Albarn yn un o wyliau cerddorol mwya'r byd ddydd Sul 30 Mehefin am 18:00.

"'Da ni'n canu tair cân gyda The Good, The Bad and The Queen, dwy ohonyn nhw 'naethon ni recordio hefo nhw, ac un o'r albwm flaenorol maen nhw 'di gofyn i ni ganu hefyd," meddai Owain Arwel Davies.

Nid hwn fydd perfformiad byw cynta'r côr gyda'r band - maen nhw wedi rhannu llwyfan yn Blackpool a'r Palladium yn barod.

Ar ôl Glastonbury, mae 'na gyngerdd arall gyda'r band yn Somerset House yn Llundain ganol Gorffennaf, ac maen nhw hefyd yn ceisio trefnu i Albarn a'r band ddod fyny i berfformio ym Methesda yn y dyfodol agos.

Dywedodd Owain: "Mae o isio dod, oeddan ni wedi dechra' trefnu un dyddiad ond yn anffodus mae'r dyddiad yna wedi disgyn trwodd, ond gawn ni weld.

"Yn sicr 'sa fo'n bersonol yn licio dod, mater o fedru dod â'r band i gyd i fyny ydy o."