Pensiynwraig yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Hafan ArtroFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddynes, oedd mewn cadair olwyn ar y pryd, ei tharo tu allan i Westy Hafan Artro

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i bensiynwraig oedd mewn cadair olwyn gael ei tharo gan gerbyd yn Llanbedr, Gwynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 11:30 fore Mercher yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a dynes tu allan i Westy Hafan Artro ar yr A496.

Cafodd y ddynes 89 oed ei chludo mewn hofrennydd i ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol "all newid ei bywyd".

Dywedodd Sarjant Nicola Grimes-Williams bod Mitsubishi Outlander arian, oedd yn teithio i gyfeiriad Y Bermo, yn rhan o'r digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.