Dim Jess Glynne ym Mharc Eirias

  • Cyhoeddwyd
Jess GlynneFfynhonnell y llun, Isabel Infantes

Mae cyngerdd Access All Eirias - sydd wedi ei gynnal yn flynyddol ym Mae Colwyn ers tro - wedi ei ganslo wedi i'r gantores Jess Glynne dynnu nôl ôl derbyn cyngor meddygol.

Roedd hi fod perfformio yn y cyngerdd ar ddydd Sul, 7 Gorffennaf.

Ond mewn datganiad dywedodd bod ei llawfeddyg wedi ei chynghori i roi gorffwys i'w llais am ddeg diwrnod.

Yn ddiweddar bu'n cyd berfformio gyda'r Spice Girls ar eu taith ryngwladol.

Dywedodd ei bod wedi gweld ei llawfeddyg dau ddiwrnod yn ôl ar ôl dychwelyd o Boston, UDA, a'i fod wedi rhybuddio os ei bod am barhau i berfformio roedd yn rhaid iddi gymryd seibiant.

Roedd rhai artistiaid eraill i fod i berfformio ym Mae Colwyn, ond daeth cadarnhâd gan Gyngor Conwy fod y digwyddiad cyfan wedi ei ganslo am eleni.

Mae Tom Jones, Elton John a Lionel Ritchie ymhlith yr artistiaid sydd wedi ymddangos yn Access All Eirias ers i'r digwyddiad ddechrau yn 2012.

Mae'r rhaid sydd wedi prynu tocynnau am y cyngerdd ym Mharc Eirias wedi cael cynnig ad-daliad.