Geraint Thomas i gyd-arwain Ineos yn y Tour de France
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi ei enwi fel cyd-arweinydd Tîm Ineos ar gyfer y Tour de France eleni.
Bydd Thomas, pencampwr y ras y llynedd, yn arwain gyda'r gŵr ifanc o Colombia, Egan Bernal.
Mae'r ddau yn cyd-arwain yn dilyn damwain ddifrifol y cyn-bencampwr, Chris Froome.
Fe wnaeth Froome anafu ei goes, ei benelin a'i asennau pan darodd wal yn ystod y Critérium du Dauphiné yn gynharach yn y mis.
Cafodd Thomas ei hun ddamwain yn y Tour de Suisse, a dywedodd ei fod yn "ffodus i osgoi anafiadau difrifol".
'Mwy o opsiynau'
Dywedodd Thomas, 33: "Dydy hi ddim yn gyfrinach bod y paratoadau wedi eu heffeithio gan y ddamwain yn y Tour de Suisse, ond dwi wedi cael cyfnod da o hyfforddi ers hynny ac yn teimlo'n barod."
Ychwanegodd bod y tîm yn credu ei bod hi'n "gwneud synnwyr" i fynd i mewn i'r ras gyda chyd-arweinwyr, gan ei fod yn "rhoi mwy o opsiynau".
"Bydd Egan a finnau'n gweithio'n galed dros ein gilydd a'r tîm dros dair wythnos y ras."
Dywedodd rheolwr Tîm Ineos, Syr Dave Brailsford bod absenoldeb Froome wedi effeithio'r paratoadau, ond bod y tîm yn dal i fod yn un cryf.
"Ar ôl llwyddiant y llynedd, rydyn ni wedi penderfynu dod i mewn i'r ras hefo cyd-arweinwyr," meddai.
"Mae'r ddau'n ymddiried yn ei gilydd ac rydyn ni'n credu mai'r cynllun yma fydd orau i ni fel tîm drwy roi'r hyblygrwydd gorau i ni ar y ffordd a'r siawns orau o lwyddiant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018