Paratoi'n drwyadl ar gyfer Bash Fawr Y Bala

  • Cyhoeddwyd
BalaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffyrdd trwy'r Bala yn "gridlock" y llynedd yn ôl maer y dref

Mae pobl ardal Y Bala yn dal eu hanadl y bydd pethau'n well ar y ffyrdd y penwythnos hwn nag yr oedd hi'r llynedd wrth i ŵyl Bash Fawr Y Bala gael ei chynnal.

Y llynedd fe wnaeth yr Ŵyl Dŵr Agored wynebu problemau mawr, yn enwedig gyda'r ffyrdd gwledig o amgylch Llyn Tegid.

Bu'n rhaid cau'r brif lôn rhwng Y Bala a Dolgellau - yr A494 - am gyfnod yn ogystal.

Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi gwneud popeth posib i geisio sicrhau y bydd pethau'n llawer gwell eleni.

Mae disgwyl y bydd dros 700 o gystadleuwyr a 2,500 o gefnogwyr yn ymweld â'r ŵyl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eifion Roberts fod yr ŵyl yn "bwysig iawn o ran economi'r cylch"

Dywedodd y cynghorydd Eifion Roberts, maer Y Bala: "Mi roedd yna broblemau sylweddol y llynedd efo traffig, yn bennaf pan ddaru nhw gau'r briffordd o Bala am Ddolgellau.

"Mi ddaru bobl ddiarth wedyn fynd ar hyd ffordd Llangywer o'r ddau ben ac wedyn ddoth hi fel gridlock a neb yn gallu symud yr un ffordd."

Ond mae Mr Roberts yn gobeithio y bydd pethau'n well eleni, gan ychwanegu fod yr ŵyl yn "bwysig iawn o ran economi'r cylch ac yn dod a sylw da i'r ardal ar y teledu".

Mae Triathlon Cymru, Nofio Cymru a'r Urdd yn cydweithio i lwyfannu Bash Fawr Y Bala, a dywedodd y trefnydd Gareth Evans bod gwersi wedi'u dysgu o'r llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Evans ei fod yn "gwbl ffyddiog" bod popeth yn ei le eleni

"'Da ni wedi cymryd adborth ymlaen o'r llynedd - mae sawl mesur arall yn ei le eleni gyda mwy o bobl yn gweithio ar ochrau'r ffordd sy'n cau ac mae gennym ni restr o draffig lleol sydd wedi gofyn am gael mynediad i'r hewlydd.

"Fi'n gwbl ffyddiog bod ni wedi gwneud popeth posib y'n ni'n gallu gwneud.

"Ni'n gwybod os oes yna unrhyw fath o broblemau eleni fel y cafwyd llynedd mae dyfodol y digwyddiad mewn cwestiwn, so ni'n gobeithio'n enfawr bod popeth yn mynd heb unrhyw broblemau."