Tîm achub o Gymru yn dechrau chwilio am ddyn yng Ngroeg

  • Cyhoeddwyd
John TossellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Tossell wedi bod ar goll ar ynys Zante ers 17 Mehefin

Mae tîm achub mynydd o Gymru wedi dechrau chwilio am ddyn o Ben-y-bont sydd wedi bod ar goll yng Ngroeg ers dros wythnos.

Ni ddychwelodd John Tossell, 73, i'w westy ar ôl mynd i gerdded ar Fynydd Skopos ger pentref Argassi, Zante ar 17 Mehefin.

Fe ddechreuodd Tîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau chwilio am y gŵr am 05:00 fore Sul.

Mae chwe aelod o'r tîm eisoes ar yr ynys gyda disgwyl i bump arall ymuno â nhw yn ddiweddarach nos Sul. Y gobaith yw y bydd tri aelod arall o'r tîm achub yn teithio draw i'r ynys fore Llun.

Dywedodd Leigh Griffiths, sy'n perthyn i Mr Tossell: "Mae'r tîm wedi gwneud argraff fawr arna i drwy'r agwedd a'r proffesiynoldeb y maen nhw wedi ei ddangos. Os all unrhyw un ddod o hyd i John, nhw fydd e."