Hywel Gwynfryn: 55 mlynedd o ddarlledu gyda BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Eleni, mae hi'n 55 o flynyddoedd ers i Hywel Gwynfryn ddechrau gyda BBC Cymru.
Ond bu'n agos iawn at beidio â serennu ar ein setiau radio a theledu ar raglenni fel Heddiw, Helo Sut Da Chi?, Telewele a Rhaglen Hywel a Nia, ac yn hytrach, dod yn athro yn lle.
Mae Hywel wedi bod yn hel atgofion am ei yrfa gyda Cymru Fyw, ac am y penderfyniad tyngedfennol hwnnw, nôl yn 1964, a drawsnewidiodd ei fywyd.
"O'n i'n 24 a newydd raddio o'r Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd, ac am fynd yn athro drama mewn ysgol ym Mynydd Cynffig. Roedd gen i swydd dros yr haf yn nhafarn The Borough, a daeth criw o gynhyrchwyr y BBC yno i gael bwyd un noson.
"Roedden nhw'n synnu mod i'n siarad Cymraeg, a soniais i am fy mwriad i fynd i fod yn athro.
"Ar ôl sgwrs fer, ges i wahoddiad gan y cynhyrchydd radio Nan Davies i fynd draw i Stacey Road - swyddfeydd y BBC ar y pryd - i gael cyfweliad.
"O'n i wir yn meddwl mai beth oedden nhw eisiau oedd fy holi fi am y ffaith mod i am fod yn athro drama - achos o'dd hynny'n beth reit newydd ar y pryd.
"Doedd hi ddim tan i mi fynd i'r swyddfeydd 'nes i sylweddoli eu bod nhw eisiau rhoi cyfweliad a screentest i mi, am eu bod nhw'n chwilio am rywun i gydgyflwyno efo Owen Edwards ar raglen ddyddiol Heddiw - rhywun fyddai'n gwneud eitemau ysgafnach."
Ar sail ei berfformiad yn y cyfweliad, cynigiodd Nan Davies dri mis o waith i Hywel.
Ag yntau â swydd barhaol yn aros amdano mewn ysgol, roedd rhaid i Hywel wneud penderfyniad mawr.
"Er mor ifanc a dibrofiad o'n i, o'n i'n meddwl fod tri mis ddim yn swnio rhy dda, achos o'dd gen i sicrwydd o swydd am oes. 'Na i byth anghofio beth ddywedodd hi wrtha i.
"'Da chi'n iawn,' medda hi, 'yn y llaw yma mae gennych chi sicrwydd. Yn y llaw arall mae gennych chi ddau beth - ansicrwydd a chyfle i 'neud rhywbeth gwahanol, i 'neud gwahaniaeth, i fod yn rhan o rywbeth cyffrous.'
"A dyna sut nes i gychwyn."
Roedd BBC Cymru ond wedi cael ei lansio ychydig o fisoedd, ar 9 Chwefror 1964, ac felly roedd y BBC yn chwilio am dalent newydd.
"Roedd pawb yn amaturaidd ar y pryd, gan wneud unrhyw waith cyflwyno neu actio gyda'r nos ar ôl gorffen yn eu swyddi 'go iawn'.
"Roedd angen i mi weithio ar raglen ddyddiol, ond roedden nhw hefyd angen pobl i wneud adloniant ysgafn felly roedden nhw'n gallu fy nefnyddio i ar y rhaglenni yna.
"'Nes i ganu'r gitâr ar Hob y Deri Dando ar y Dydd Sadwrn cyn i mi ddechrau efo Heddiw.
"Mi dyfodd pethau wedyn yn ara' deg bach."
Mae Hywel yn teimlo'n ffodus o fod wedi cael cyfleoedd i weithio ar amryw o fathau gwahanol o raglenni, a hynny ar y teledu ac ar y radio.
"Yn 1967, ges i gyflwyno rhaglen bop ar fore Sadwrn ar y radio, o'r enw Helo Sut Da Chi? - y rhaglen bop Gymraeg gynta' erioed.
"Yn 1975, roedd y rhaglen blant Bilidowcar yn rhoi cyfle i mi ffilmio ar draws y byd.
"Wedyn yn 1977, pan ddechreuodd Radio Cymru, o'n i yno, a 'nes i gyflwyno Helo Bobol am 12 mlynedd.
"Ddechrau'r 80au, o'n i'n gwneud chat show ar nos Sul. Ges i hefyd gyfnod yn y 90au yn cyflwyno ym Mangor ar raglenni radio Saesneg.
"Dwi wastad wedi gwneud teledu a radio ar yr un pryd. Ond 'na i byth anghofio y cyngor ges i gan Nan Davies un tro - 'Cofiwch y gallwch chi fod yn lais ar y radio, ymhell ar ôl i chi fod yn wyneb ar y teledu - datblygwch y grefft, peidiwch â chanolbwyntio ar fod ar y teledu.'
"Dydi o ddim yn rhy gryf i ddweud fod Nan Davies yn arloeswr radio yn y cyfnod yna. Roedd hi'n berson allweddol yn fy ngyrfa - hi welodd fod yna rywbeth yna.
"Cyngor arall roddodd i mi oedd - 'Cofiwch bo' chi yn berfformiwr a'ch bod chi'n ei 'neud o yn eich ffordd eich hun - peidwch â thrio copïo neb. Byddwch yn chi eich hun.'
"Dwi wedi trio gwneud hynny - mae'r Hywel ar y radio mor debyg â phosib â'r Hywel go iawn. What you see is what you get."
Dros bum degawd ar ôl ei swydd gyflwyno gyntaf, mae Hywel yn dal i'w glywed ar ein tonfeddi bob prynhawn Sul, ac yn darlledu o bob Eisteddfod yr Urdd a Chenedlaethol ar BBC Radio Cymru.
Ac mi fydd Hywel, ymhlith staff BBC Cymru a fydd, dros y misoedd nesaf, yn symud o'u cartref presennol yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf, dair milltir i lawr y ffordd i ganol dinas Caerdydd, i adeilad newydd y Sgwâr Canolog.
Yn 1966, cafodd llun o holl staff BBC Cymru ei dynnu o flaen y Ganolfan Ddarlledu a oedd newydd ei hagor. Yn 2019, cafodd y llun ei ail-greu, cyn i bawb adael yr hen adeilad.
Hywel Gwynfryn yw'r unig berson sydd yn y ddau lun.
"O'n i'n hynod o ffodus o'i gymharu â phobl ifanc sy'n dod i'r busnes 'ma heddiw, achos ma' 'na gannoedd, a phawb isho bod yn media star. Ond bryd hynny, roedd rhaid i chi fod yn bopeth i bawb, ond roedd hynny yn golygu eich bod chi mewn gwaith drwy'r amser.
"Weithiau, beth sydd ei angen ydi break, a mae 'na gymaint o bobl dalentog sydd fel'na - yn dalentog ac angen y cyfle.
"Dwi wastad yn d'eud, mae hi'n bwysicach i gael lwc a 'chydig bach o dalent, na lot o dalent a dim lwc, neu chewch chi ddim y cyfle i ddatblygu'r dalent 'na wedyn.
"O'n i yn y Borough Arms un noson yn 1964, a dyna oedd y lle i fod."
Hefyd o ddiddordeb: