Dirwy i gwmni gwastraff wedi tân 'anferth' yn 2017

  • Cyhoeddwyd
Tan
Disgrifiad o’r llun,

Aeth 2,000 tunnell o wastraff ar dân yn safle Siteserv Recycling Ltd ym mis Mawrth 2017

Mae cwmni ailgylchu wedi cael dirwy o £40,000 ar ôl tân "anferth" ar eu safle, wnaeth bara pythefnos.

Fe aeth tua 2,000 o dunelli o wastraff cartref ar dân ar safle Siteserv ger Llandŵ, Y Bontfaen ym mis Mawrth 2017.

Daeth ymchwiliad blaenorol gan y gwasanaeth tân i'r casgliad fod y pentwr o sbwriel wedi hunan-losgi ar ôl mynd yn rhy boeth.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wnaeth erlyn Siteserv, fod y cwmni wedi torri amodau amgylcheddol gan ganiatáu casgliad "anferth" o sbwriel i gael ei storio am rhy hir heb unrhyw fesurau diogelwch tân mewn lle.

Mae'r cwmni eisoes wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o dorri amodau amgylcheddol eu trwydded rhwng 2016 a 2017.

Cafodd y cwmni orchymyn i dalu £3,122 mewn costau llys a £170 gordal dioddefwr ar ben dirwy o £40,000.

Disgrifiad o’r llun,

Bu tân yn un o safleoedd eraill Siteserv yn Llandŵ yn 2013

Dywedodd CNC fod swyddogion wedi ymweld â'r safle'n rheolaidd am dros flwyddyn cyn y tân i rybuddio Siteserv am y peryglon o storio sbwriel yn rhy hir heb fesurau diogelwch digonol.

Ond dywedodd y corff fod y cwmni ailgylchu wedi anwybyddu'r rhybuddion ac wedi methu cyrraedd targedau amser i gwtogi ar y gwastraff oedd yn cael ei gadw.

'Y gymuned yn talu'r pris'

Bu'n rhaid i fusnesau cyfagos gau am bythefnos ym mis Mawrth 2017 wedi'r tân.

Dywedodd Susana Fernandez o CNC fod gan gwmnïau gwastraff ddyletswydd i weithredu'n ddiogel er lles y gymuned.

"Gellid bod wedi osgoi'r tân hwn, pe bai'r cwmni wedi dilyn ei gynllun atal tân ei hun ac wedi rhoi sylw i gyngor ein swyddogion, a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru," meddai.

"Yn anffodus, methodd y cwmni â gwneud hyn yn flaenoriaeth a thalodd y gymuned y pris."