Abertawe yn arwyddo Jake Bidwell o Queens Park Rangers
- Cyhoeddwyd

Ni chafodd Bidwell gynnig cytundeb newydd gan QPR, er iddo ymddangos 45 gwaith i'r clwb y llynedd
Mae Abertawe wedi arwyddo'r amddiffynnwr Jake Bidwell o Queens Park Rangers.
Bydd cyn-chwaraewr Brentford, 26, yn ymuno am ddim ar gytundeb tair blynedd.
Bidwell yw'r chwaraewr cyntaf i gael ei arwyddo gan reolwr newydd yr Elyrch, Steve Cooper yn dilyn ei benodiad fis diwethaf.
Mae Abertawe'n awyddus i gael gwared ar ambell i chwaraewr mwy profiadol, fel Borja Baston a Jefferson Montero, sydd heb deithio gyda'r garfan i wersyll ymarfer yn Sbaen.