Abertawe yn penodi Steve Cooper fel rheolwr

  • Cyhoeddwyd
Steve CooperFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Cooper Cwpan y Byd dan-17 gyda Lloegr 'nôl yn 2017

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau fod Steve Cooper wedi cael ei benodi yn rheolwr newydd ar y clwb.

Mae'r Cymro 39 oed wedi arwyddo cytundeb gyda'r Elyrch ar ôl gadael ei rôl fel rheolwr tîm dan-17 Lloegr.

Bydd aelod o staff cynorthwyol Cooper, Mike Marsh, yn ymuno ag ef yn Stadiwm Liberty.

Daw'r penodiad newydd yn dilyn penderfyniad Graham Potter i adael Abertawe ar gyfer Brighton & Hove Albion ym mis Mai.

Ar ôl dechrau ei yrfa fel chwaraewr yn Wrecsam, fe aeth yn ei flaen i chwarae dros y Seintiau Newydd, Bangor a Phorthmadog.

Wedi cyfnod fel hyfforddwr gyda Wrecsam, fe ymunodd â'r tîm hyfforddi yn academi Lerpwl yn 2008.

Cafodd ei benodi'n rheolwr ar dîm dan-17 Lloegr yn 2015 cyn mynd ymlaen i ennill Cwpan y Byd dan-17 dwy flynedd yn ddiweddarach.

Y gred yw bod Cooper wedi creu argraff ar swyddogion y clwb yn ystod y broses gyfweld, oedd hefyd yn cynnwys Michael Appleton, Lee Bowyer, Cameron Toshack a John Eustace.