Gwahardd barfau i focswyr yn 'achos o wahaniaethu'
- Cyhoeddwyd
Mae rheol sy'n atal bocswyr amatur yng Nghymru rhag cael barf yn "achos o wahaniaethu", yn ôl bocsiwr Sicaidd.
Dywedodd Aaron Singh, 20, bod rheol Cymdeithas Focsio Amatur Cymru (WABA) yn ei atal rhag cystadlu oherwydd ei ffydd.
Fe wnaeth y corff cyfatebol yn Lloegr wrthdroi'r gwaharddiad yn dilyn ymgyrch gan focswyr Sicaidd a Mwslimaidd.
Dywedodd WABA y byddai penderfyniad ar a yw'r rheol yn anffafriol ai peidio yn cael ei wneud gan ei aelodau a'i fwrdd fis yma.
'Mater iechyd'
Dywedodd Mr Singh, sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd: "Er mwyn i mi gystadlu maen nhw'n gofyn i mi siafio fy marf i ffwrdd, sy'n mynd yn erbyn fy nghrefydd.
"Rydw i wedi siarad â WABA a dywedon nhw ei fod yn fater iechyd, ac mai dyma'r rheswm dros y rheol.
"Rwy'n teimlo bod y rheol yn achos o wahaniaethu. Pe byddwn i'n mynd awr i ffwrdd i Fryste byddwn i'n cael cystadlu heb unrhyw broblem - ond yma, does gen i ddim hawl."
Mae'r egwyddor Sicaidd, Kesh, yn gwahardd tynnu unrhyw wallt oddi ar y corff am ei fod yn cael ei ystyried yn gysegredig ac yn anrheg gan Dduw.
Dywedodd Amerpreet Singh, ffigwr blaenllaw o fewn y gymuned Sicaidd yng Nghaerdydd: "I mi mae'n 100% yn achos o wahaniaethu.
"Mae'n dorcalonnus clywed bod dim modd bocsio fel amatur yng Nghymru oherwydd bod gennych chi farf.
"Fe wnaeth Siciaid gwffio yn y ddau ryfel byd, ac fe wnaethon nhw hynny gyda thyrbanau a barfau llawn."
Mae bocsio amatur yn cael ei lywodraethu gan y Gymdeithas Focsio Ryngwladol, sy'n parhau i wahardd bocswyr rhag cystadlu gyda barf neu fwstash.
Ond fe wnaeth y corff golli ei statws Olympaidd yn gynharach eleni, sy'n golygu mai'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol fydd yn gosod y rheolau ar gyfer y cystadlaethau bocsio yng ngemau Tokyo 2020.
Rhesymeg 'ddim yn gyfiawnhad'
Dywedodd Carwyn Jones, darlithydd mewn moeseg chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ei fod yn deall rhesymeg WABA ond nad yw'n cyfiawnhau'r gwaharddiad presennol.
"Mae'n ymddangos bod tystiolaeth fod cael gwallt ar yr wyneb yn gallu amharu ar allu'r dyfarnwr a'r doctor i adnabod a thrin anafiadau," meddai.
"Y cwestiwn o safbwynt cydraddoldeb ydy a yw'r potensial am niwed yn ddigon sylweddol i warantu rheol sy'n eithaf anffafriol yn erbyn rhai crefyddau?"
Dywedodd Aaron Singh ei fod wedi colli allan ar gyfleoedd i gystadlu oherwydd y gwaharddiad, a'i fod yn gobeithio ei weld yn cael ei wrthdroi.
"Rydw i eisiau gweld y rheol yma'n newid, nid yn unig i fi fy hun, ond i fy mrodyr Sicaidd, Mwslimaidd, ac unrhyw un arall sydd â barf," meddai.