Marwolaeth afon Cynon: Cyhoeddi enw bachgen
- Cyhoeddwyd
![Christopher Kapessa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/19B5/production/_107718560_mediaitem107716218.jpg)
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw bachgen a gafodd ei ganfod yn farw mewn afon ddydd Llun fel Christopher Kapessa.
Roedd Christopher yn 13 oed ac yn byw yn ardal Pontypridd.
Cafodd timau achub arbenigol, hofrennydd a chriwiau tân eu galw i afon Cynon yn Fernhill, Rhondda Cynon Taf am tua 17:40 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau fod person ifanc yn y dŵr.
Dywedodd yr heddlu bod y bachgen wedi'i gadarnhau'n farw yn y fan a'r lle.
Fe wnaeth Pauline Jarman, cynghorydd lleol a chadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Aberpennar, ddisgrifio'r digwyddiad fel "trychineb ofnadwy".
Ychwanegodd bod y bachgen yn "boblogaidd iawn" a'i bod yn meddwl am y teulu.
![Afon Cynon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9A42/production/_107709493_img_1628.jpg)
Mae teyrngedau wedi'u gadael i'r bachgen ger safle'r digwyddiad
Dywedodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan, ei fod wedi'i "dristáu'n arw" o glywed am farwolaeth y bachgen.
"Mae hyn yn newyddion ofnadwy, ond rwy'n gwybod y bydd y gymuned leol yn cynnig cefnogaeth lawn i'r teulu a'r ffrindiau ar adeg eithriadol o anodd."
Ychwanegodd fod disgyblion Ysgol Uwchradd Aberpennar yn cael eu cynorthwyo gan swyddogion bugeiliol.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad.